Treviso 13–7 Gleision
Bu rhaid i’r Gleision fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn wrth iddynt golli yn erbyn Treviso yn y Stadio Comunale di Monigo.
Roedd y Cymry ar y blaen ar yr egwyl ond yn ôl y daeth y tîm cartref gan ei hennill hi gyda chais cosb yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Dechreuodd Treviso yn gryf ac roedd angen tacl dda gan asgellwr y Gleision, Dan Fish, i’w hatal rhag croesi am gais cynnar.
Fe aeth yr Eidalwyr ar y blaen serch hynny wedi naw munud pan lwyddodd Jayden Hayward gyda chic gosb. Ychwanegodd y cefnwr cartref ail hanner ffordd trwy’r hanner i ymestyn y fantais i chwe phwynt.
Gorffennodd y Gleision yr hanner yn well ac roeddynt ar y blaen ar yr egwyl diolch i drosgais, Blaine Scully yn croesi a Rhys Patchell yn ychwanegu’r ddau bwynt.
Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i’r cyntaf, gyda Treviso yn pwyso, ac roedd yr Eidalwyr yn ôl ar y blaen wedi i Dudley Phillips ddyfarnu cais cosb wedi i’r Gleision ddymchwel sgrym bump.
13-6 oedd y sgôr wedi trosiad Hayward ac er bod dros hanner awr i fynd ac er i’r Gleision bwyso a phwyso, amddiffynnodd Treviso yn ddewr a disgybledig gan ddal eu gafael tan y diwedd.
Nid yw buddugoliaeth Pro12 gyntaf yr Eidalwyr ers blwyddyn yn ddigon i’w codi o waelod y tabl, ac mae’r Gleision yn aros yn nawfed ar ôl gwastraffu cyfle i godi dros y Gweilch i’r seithfed safle.
.
Treviso
Cais: Cais Cosb 48’
Trosiad: Jayden Hayward 49’
Ciciau Cosb: Jayden Hayward 9’, 23’
.
Gleision
Cais: Blaine Scully 35’
Trosiad: Rhys Patchell 36’