Dreigiau Casnewydd Gwent 31–18 Castres
Mae’r Dreigiau yn aros ar frig grŵp 2 Cwpan Her Ewrop wedi buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Castres ar Rodney Parade nos Wener.
Roedd y Dreigiau ar dân wrth iddynt groesi am bedwar cais, ond cawsant gymorth gan Castres a’i diffyg disgyblaeth hefyd.
Hanner Cyntaf
Hon oedd gêm gyntaf Hallam Amos ers iddo gael ei anafu yn chwarae i Gymru yng Nghwpan y Byd, ac roedd yr asgellwr wedi croesi am gais wedi llai na munud. Llwyddodd Jason Tovey gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i roi ei dîm ddeg pwynt ar y blaen wedi deg munud.
Roedd Geoffrey Palis wedi cicio pwyntiau cyntaf Castres pan yr anfonwyd Lucas Martinez i’r gell gosb am drosedd yn y sgrym a manteisiodd y Dreigiau’n syth wrth i Nic Cudd hyrddio drosodd o’r sgarmes ganlynol.
Croesodd Lewis Evans am drydydd cais y tîm cartref wedi hynny ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Ffrancwyr cyn yr egwyl wrth i David Smith sgorio gyda symudiad olaf yr hanner.
Ail Hanner
Roedd yr ymwelwyr yn ôl yn y gêm yn gynnar yn yr ail hanner wrth i gais Christophe Samson a chic gosb Palis eu rhoi o fewn sgôr i’r Dreigiau.
Aeth pethau o’r chwith i’r Ffrancwyr yn fuan wedyn serch hynny wrth i Alexandre Bias ac Eric Sione orfod gadael y cae, Bias gyda cherdyn coch am ddefnyddio’i ben yn ardal y dacl, a Sione gyda cherdyn melyn am daclo heb ddefnyddio’i freichiau.
Manteisiodd y Dreigiau’n llawn wrth i Ashton Hewitt sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws gyda’r pedwerydd cais wyth munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn rhoi’r Cymry ar frig grŵp 2, ddau bwynt uwch ben Sale cyn i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yn y gêm grŵp olaf nos Iau.
.
Dreigiau
Ceisiau: Hallam Amos 1’, Nic Cudd 27’, Lewis Evans 36’, Ashton Hewitt 72’
Trosiadau: Jason Tovey 2’, 28’, 37’, 73’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 10’
.
Castres
Ceisiau: David Smith 40’, Christophe Samson 48’
Trosiad: Geoffrey Palis 40’
Ciciau Cosb: Geoffrey Palis 12’, 56’
Cardiau Melyn: Lucas Martinez 26’, Eric Sione 63’
Cerdyn Coch: Alexandre Bias 57’