Gweilch 21–13 Clermont Auvergne

Mae gobeithion y Gweilch o gyrraedd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth bwysig yn erbyn Clermont Auvergne ar y Liberty nos Wener.

Mae’r rhanbarth o Gymru bellach ar frig grŵp 2 wedi i ddiffyg disgyblaeth y Ffrancwyr a chicio cywir Sam Davies arwain at fuddugoliaeth i’r tîm cartref.

Hanner Cyntaf

Croesodd Clermont am gais wedi dim ond pum munud o chwarae, Wesley Fofana yn sgorio wedi bylchiad gwreiddiol Camille Lopez.

Ychwanegodd Morgan Parra’r trosiad ond roedd y Gweilch o fewn pedwar pwynt yn fuan wedyn diolch i gic gosb Dan Biggar.

Caeodd Biggar y bwlch ym mhellach gyda thri phwynt arall wedi i Victor Koleishvili gael ei gosbi am wthiad, ar y dyfarnwr!

Cyfle Parra i anelu at y pyst oedd hi nesaf wedi i Eli Walker daclo David Strettle yn yr awyr, a llwyddodd y mewnwr i adfer y pedwar pwynt o fantais.

Roedd Koleishvili yn ôl yn ei chanol hi wedi hynny, yn cael ei anfon i’r gell gallio yn dilyn ffrwgwd gydag Alun Wyn Jones. Methodd y Gweilch a manteisio serch hynny, a’r Ffrancwyr yn hytrach a sgoriodd bwyntiau olaf yr hanner wrth i Parra ymestyn y bwlch i saith pwynt, 6-13 y sgôr ar yr egwyl.

Ail Hanner

Efallai nad oedd Biggar ar ei orau yn yr hanner cyntaf ond roedd hi’n dipyn o ergyd i’r Gweilch pan adawodd y maswr y cae gydag anaf yn gynnar yn yr ail hanner.

Dechreuodd ei eilydd, Sam Davies, yn dda wrth drosi cic gosb toc cyn yr awr ac roedd y Gweilch o fewn pwynt unwaith eto yn fuan wedyn diolch i gôl adlam ganddo.

Cafodd Clermont gerdyn melyn arall chwarter awr o’r diwedd, John Ulugia yn troseddu yn dilyn bylchiad Alun Wyn, a’r Cymry yn mynd ar y blaen am y tro cyntaf wrth i Davies lwyddo gyda’r gic gosb ganlynol.

Ymestynnodd y maswr y fantais gyda dwy gic gosb arall yn y deg munud olaf, yr ail nid yn unig yn sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm ond yn atal yr ymwelwyr rhag dychwelyd i Ffrainc gyda phwynt bonws hefyd, 21-13 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i frig grŵp 2, ddau bwynt yn glir o Clermont sydd yn llithro i’r ail safle. Gall Caerwysg gau’r bwlch gyda buddugoliaeth yn erbyn Bordeaux brynhawn Sadwrn ond bydd ffawd y Gweilch yn eu dwylo eu hunain wrth iddynt deithio i Gaerwysg yr wythnos nesaf.

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Dan Biggar 8’, 17’, Sam Davies 58’, 67’, 70’, 78’

Gôl Adlam: Sam Davies 62’

.

Clermont Auvergne

Cais: Wesley Fofana 5’

Trosiad: Morgan Parra 6’

Ciciau Cosb: Morgan Parra 19’, 37’

Cardiau Melyn: Victor Koleishvili 25’, John Ulugia 66’