Warren Feeney, y dyn oedd yn cynorthwyo John Sheridan, yw rheolwr newydd Casnewydd.
Daeth swydd rheolwr Casnewydd yn wag wedi i John Sheridan ailymuno gydag Oldham, clwb y bu’n eu rheoli am dair blynedd rhwng 2006-09.
Bydd Warren Feeney wrth y llyw ar gyfer y gêm oddi cartref yn Efrog yfory.
Bu cyn-chwaraewr rhyngwladol Gogledd Iwerddon yn rheolwr Linfield yn ei wlad enedigol cyn ymuno â Chasnewydd ym mis Hydref.
“Mae’n fraint enfawr i mi gael fy mhenodi yn Rheolwr Casnewydd,” meddai Warren Feeney.
“Mae gen i dŷ yn yr ardal a’r cynllun oedd wastad i setlo yma gyda fy nheulu.”
Cyn-chwaraewr Blackburn Rovers, Andy Todd, fydd rheolwr cynorthwyol newydd Casnewydd.