Gareth Anscombe (llun: Joe Giddens/PA)
Fe allai Gareth Anscombe chwarae ei gêm gyntaf ers Cwpan Rygbi’r Byd llynedd pan fydd y Gleision yn herio Harlequins yng Nghwpan Her Ewrop brynhawn Sul.
Dyw’r maswr heb chwarae dros ei ranbarth ers anafu’i bigwrn wrth i Gymru golli Dde Affrica yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ym mis Hydref.
Ond fe fydd ymysg yr eilyddion wrth i’r Gleision deithio i Loegr yn chwilio am fuddugoliaeth yn erbyn y tîm sydd wedi ennill pob gêm ac ar frig y grŵp ar hyn o bryd.
Mae’n amseru da i’r gŵr sydd yn wreiddiol o Seland Newydd brofi ei fod wedi gwella o’r anaf ac yn barod i chwarae, gan bod carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Dau newid
Dim ond dau newid sydd wedi cael ei wneud i dîm y Gleision o’r pymtheg ddechreuodd yn eu buddugoliaeth ddiwethaf dros y Scarlets, gyda’r prop Sam Hobbs a’r clo Macauley Cook yn dychwelyd.
Ac fe fyddan nhw’n dod wyneb yn wyneb â chanolwr cyfarwydd yn rhengoedd y gwrthwynebwyr – Jamie Roberts, a ddechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda’r Gleision.
“Does dim amheuaeth bod gan y Quins chwaraewyr all ennill y gêm ym mhob rhan o’u tîm ac mae ganddyn nhw garfan gref iawn,” meddai prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson.
“Mae gallu dod â chwaraewyr fel Jamie Roberts i mewn ar adeg fel hyn yn y tymor wedi rhoi dimensiwn arall iddyn nhw hefyd.”
Tîm y Gleision: Sam Hobbs, Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Macauley Cook, James Down, Josh Turnbull, Josh Navidi, Manoa Vosawai; Lloyd Williams, Rhys Patchell, Tom James, Rey Lee-Lo, Cory Allen, Alex Cuthbert, Dan Fish
Eilyddion: Ethan Lewis, Thomas Davies, Dillon Lewis, Jarrad Hoeata, Ellis Jenkins, Tavis Knoyle, Gareth Anscombe, Gavin Evans