Mae prif hyfforddwr y Scarlets wedi dweud nad oes unrhyw bwysau ar ei dîm wrth iddyn nhw baratoi i herio Racing 92 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Gyda dwy gêm yn weddill yn y grŵp mae gobeithion y rhanbarth o Lanelli o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth eisoes ar ben, a chwarae am falchder fyddan nhw ym Mharis ddydd Sul.
Mae’r bachwr Ken Owens, y clo George Earle a’r blaenasgellwr Rory Pitman ymysg y rheiny sydd yn dychwelyd i’r tîm ar gyfer y gêm, tra bod Regan King hefyd nôl yn y canol.
Ac fe ddywedodd Pivac y byddai’r ornest yn gyfle i ambell un o’r chwaraewyr ddangos beth roedden nhw’n gallu’i wneud, er mwyn cadw’u lle yn y tîm pan fydd y sylw’n troi nôl at y Pro12.
“Mae’n gyfle gwych i unigolion i gamu lan ar lwyfan eitha’ mawr,” meddai’r hyfforddwr.
“Fe fyddwn ni’n edrych ar geisio cadw’r bêl ar dir y chwarae a pheidio ag ildio gormod o giciau cosb. Dyma beth mae chwaraewyr eisiau ei wneud, profi eu hunain yn erbyn y goreuon.”
Tîm y Scarlets: Phil John, Ken Owens (capt), Samson Lee, George Earle, Maselino Paulino, Rory Pitman, Aaron Shingler, Morgan Allen; Gareth Davies, Steven Shingler, DTH van der Merwe, Hadleigh Parkes, Regan King, Steffan Evans, Michael Collins
Eilyddion: Kirby Myhill, Wyn Jones, Rhodri Jones, Tom Price, Tom Phillips, Rhodri Williams, Daniel Jones, Steffan Hughes