Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo canolwr De Affrica JJ Engelbrecht ar gytundeb sydd yn para nes diwedd y tymor.
Fe fydd y chwaraewr 26 oed, sydd hefyd yn gallu chwarae ar yr asgell, yn symud i Gymru ar ôl cyfnod byr yn chwarae gyda thîm Toyota Industries yn Siapan.
Cyn hynny roedd yn aelod selog o garfan y Bulls, ac fe chwaraeodd bob gêm y tîm yn y Super 15 yn ystod 2014 a 2015.
Mae gan Engelbrecht 12 cap dros Dde Affrica ac mae wedi sgorio pedair cais dros ei wlad.
Cawr o ddyn
Mae’r gŵr o Dde Affrica, sydd yn chwe throedfedd a thair modfedd o daldra ac yn pwyso 95kg, wedi gwneud enw i’w hun fel rhedwr pwerus a chyflym.
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Gweilch Andrew Millward bod ychwanegu Engelbrecht i’r garfan yn hwb sylweddol ar ôl ymddeoliad Andrew Bishop ac anaf hir dymor Ashley Beck.
“Rydyn ni wedi gweld diffyg dyfnder yng nghanol cae eleni,” cyfaddefodd Andrew Millward.
“Mae JJ yn ychwanegiad gwych ac roedd ei angen ar y garfan. Fe fydd e’n dod a phrofiad ar lefel uchaf y gêm yn ogystal â bod yn gallu cynnig rhywbeth ychwanegol yn llydan ar y cae.”
Fe fydd Engelbrecht yn ymuno â’r garfan nes ymlaen ym mis Ionawr, ac fe ddywedodd Millward eu bod wedi gorfod bod yn amyneddgar i gael eu dyn.
“Rydyn ni eisiau bod yn cystadlu ar y lefel uchaf un, ac mae e’n fath o chwaraewr sydd ei angen arnoch chi er mwyn gallu gwneud hynny,” meddai’r rheolwr.