Abertawe 2–4 Sunderland
Llithrodd Abertawe yn nes at safleoedd y gwymp yn yr Uwch Gynghrair wrth golli gartref yn erbyn Sunderland nos Fercher.
Sgoriodd Jermain Defoe hatric ar y Liberty wrth i’r ymwelwyr guro deg dyn yr Elyrch mewn gêm yn llawn penderfyniadau dadleuol.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o fewn tri munud pan fanteisiodd Defoe ar gamgymeriad Lukasz Fabianski yn y gôl. Llanast amddiffynnol heb os ond amheuaeth o gamsefyll gan y blaenwr hefyd.
Unionodd Gylfi Sigurdsson o’r smotyn wedi trosedd honedig Wes Brown ar André Ayew wedi ugain munud.
Bu rhaid i’r Elyrch chwarae dros hanner y gêm gyda deg dyn wedi Kyle Naughton dderbyn cerdyn coch am dacl ar Yann M’Vila, er iddo ennill y bêl yn y weithred.
Deg dyn y tîm cartref a sgoriodd nesaf serch hynny wrth i Ayew rwydo’n wych wedi pêl hir Fabianski o’r cefn.
Unionodd Sunderland yn gynnar yn yr ail gyfnod pan wyrodd ergyd Patrick van Aanholt oddi ar Federico Fernandez i gefn y rhwyd.
Amserodd Defoe ei rediad yn berffaith cyn rhwydo trydedd yr ymwelwyr ar yr awr, arhosodd lluman y dyfarnwr cynorthwyol i lawr a chafodd y gôl ei chaniatáu.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel pan gwblhaodd Defoe ei hatric o groesiad van Aanholt bum munud o ddiwedd y naw deg.
Mae’r canlyniad dadleuol yn gadael yr Elyrch yn ail ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair, bwynt yn unig uwch ben Sunderland sydd yn ddeunawfed.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Britton (Rangel 42′), Ki Sung-yueng, Barrow, Sigurdsson, Routledge (Gomis 77′), Ayew (Cork 91′)
Gôl: Sigurdsson [c.o.s.] 21’, Ayew 40’
Cerdyn Coch: Naughton 37’
.
Sunderland
Tîm: Mannone, Jones, O’Shea, Brown, van Aanholt, Cattermole (Rodwell 73′), M’Vila, Johnson, Lens (Watmore 86′), Borini (Graham 83′), Defoe
Goliau: Defoe 3’, 61’, 85’, van Aanholt 49’
Cardiau Melyn: Mannone 67’, van Aanholt 79’,
.
Torf: 20,140