Hull 2–0 Caerdydd                                                                             

Sgoriodd Hull ddwy waith bum munud o bobtu’r egwyl wrth guro Caerdydd yn Stadiwm KC nos Fawrth.

Sgoriodd Abel Hernández o’r smotyn toc cyn yr egwyl cyn i Sam Clucas ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail hanner i’r tîm sydd yn ail yn y Bencampwriaeth.

Deugain munud oedd ar y cloc pan ildiodd Lee Peltier gic o’r smotyn am drosedd ar Harry Maguire a gwnaeth Hernández y gweddill o ddeuddeg llath.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond dyblwyd mantais Hull wedi pum munud o’r ail hanner pan orffennodd Clucas yn daclus ar y foli o groesiad Mohamed Diame.

Hull a gafodd y gorau o’r cyfleoedd wedi hynny hefyd ond roedd dwy gôl yn ddigon i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn codi Hull i’r ail safle yn nhabl y Bencampwriaeth ond yn gadael Caerdydd yn nawfed.

.

Hull

Tîm: McGregor, Odubajo, Maguire, Davies, Robertson, Elmohamady, Livermore (Hayden 75′), Meyler, Clucas, Diamé (Aluko 82′), Hernández (Huddlestone 68′)

Goliau: Hernández [c.o.s.] 40’, Clucas 51’

Cerdyn Melyn: Hernández 41’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Noone, Gunnarsson, Ralls, Pilkington, Watt (Macheda 82′), Mason (Ameobi 61′)

.

Torf: 15,549