Dan Biggar
Fe fydd y Gweilch yn gobeithio codi i hanner uchaf tabl y Pro12 gyda buddugoliaeth dros Leinster, sydd yn ail, yn Stadiwm Liberty nos Wener.

Mae Dan Biggar yn un o wyth newid sydd wedi cael ei wneud i’r tîm drechodd y Dreigiau yn eu gêm ddiwethaf, gyda phartneriaeth newydd o Jonathan Spratt ac Owen Watkin yn y canol.

Bydd Paul James yn dychwelyd i’r rheng flaen fel capten yn absenoldeb Alun Wyn Jones, sydd ar y fainc, tra bod James King a Sam Underhill yn ymuno â’r rheng ôl.

‘Dim esgus’

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy ei fod yn hapus â chanlyniadau’r tîm dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, oni bai am yr anafiadau diweddaraf i Dan Lydiate a Dmitri Arhip.

“Yn amlwg fe ddaeth y fuddugoliaeth dros y Dreigiau gyda chost, ar ôl i rai o’n prif chwaraewyr ni anafu, ond allwn ni ddim edrych at hynny fel esgus,” meddai’r hyfforddwr.

“Er mai carfan ifanc sydd gennym ni nos Wener mae cnewyllyn o brofiad rhyngwladol yno o hyd ac mae gennym ni gymysgedd o dalent ifanc a rheiny sydd am gael cyfle i wneud enw dros eu hunain y penwythnos yma.

“Mae’n rhaid iddyn nhw gymryd eu cyfleoedd a gwneud y mwyaf ohonynt.”

Tîm y Gweilch: Paul James (capt), Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Ashley, Rory Thornton, James King, Sam Underhill, Dan Baker; Brendon Leonard, Dan Biggar, Hanno Dirksen, Owen Watkin, Jonathan Spratt, Jeff Hassler, Dan Evans

Eilyddion: Scott Otten, Nicky Smith, Ma’afu Fia, Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Tom Habberfield, Sam Davies, Eli Walker