Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Clecs

Mae Napoli wedi gwrthod cynnig o £14m gan Abertawe am yr ymosodwr Manolo Gabbiandini, sydd ddim yn siŵr ei hun a ydi o eisiau symud i’r Uwch Gynghrair neu aros yn yr Eidal am y tro (The Guardian)

Yn ôl adroddiadau o’r Eidal, mae Crystal Palace a Borussia Dortmund hefyd ymysg y clybiau sydd wedi dangos diddordeb yn yr ymosodwr 24 oed (Sportwitness)

Un o chwaraewyr Napoli sydd yn sicr o adael, yn ôl ei asiant, yw cyn-chwaraewr Abertawe Jonathan de Guzman, ac mae Aston Villa a Bournemouth yn ogystal â’r Elyrch ymysg y clybiau allai fynd ar ei ôl (Talksport)

Ar y llaw arall, mae West Ham a Crystal Palace yn cystadlu â’i gilydd i ddenu chwaraewr canol cae Abertawe Jonjo Shelvey nôl i Lundain, ble dechreuodd ei yrfa (Brentwood Gazette)

Yn ôl yr ymosodwr o’r Iseldiroedd Wout Weghorst mae Caerdydd wedi cytuno i’w brynu o Heracles, ond dyw’r perchennog Vincent Tan ddim wedi cymeradwyo’r trosglwyddiad eto (Wales Online)

Mae chwaraewr canol cae Abertawe Adam King wedi dweud ei fod wedi mwynhau ei gyfnod ar fenthyg yn Crewe yn fawr, gan awgrymu y byddai’n well ganddo fynd ar fenthyg eto na dychwelyd i’r tîm dan-21 (gwefan y clwb)

Cadarnhad

Steve Lewis (Treffynon i Bangor)

Jonathan Evans (Penrhyncoch i Aberystwyth)