Mae prif hyfforddwr y Dreigiau, Kingsley Jones, wedi cyfaddef bod ganddyn nhw ddiddordeb arwyddo cefnwr Cymru Matthew Morgan.

Fe gyhoeddodd y chwaraewr 23 oed yr wythnos hon y bydd yn gadael Bryste ac yn dychwelyd i Gymru er mwyn cynyddu ei siawns o gael ei ddewis i’r tîm cenedlaethol.

Y Gleision oedd y ceffylau blaen i’w arwyddo pan fydd ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ond mae’r Dreigiau bellach yn y ras.

Cwestiynu symud i Fryste

“Os oes ganddo ddiddordeb yn y Dreigiau, mae gennym ni ddiddordeb ynddo fe,” meddai Kingsley Jones am y cefnwr sydd â phum cap dros Gymru.

“O safbwynt cefnogwr Cymru, o’r holl chwaraewyr i symud dros y bont ac yn y blaen fe oedd yr un roeddwn i fwyaf siomedig o’i weld yn gadael.

“Mae’n chwaraewr ifanc da ac i fynd i Bencampwriaeth Lloegr, er eu bod nhw [Bryste] wedi’u hyfforddi’n dda, dw i ddim yn siŵr os mai dyna oedd y penderfyniad cywir.”

X-factor’

Mae Matthew Morgan wedi cael ei gymharu â chyn-seren Cymru Shane Williams o ran ei steil o chwarae, gan ei fod yn chwaraewr cymharol fach, ond yn chwim a dawnus.

Ac yn ôl Kingsley Jones mae’n debygol y byddai’n cael tipyn mwy o gyfle yn y crys coch unwaith y byddai’n dychwelyd i Gymru.

“Dw i’n meddwl bod angen iddo chwarae i un o’r rhanbarthau,” meddai hyfforddwr y Dreigiau.

“Does dim dwywaith bod [hyfforddwyr Cymru] Warren Gatland, Rob Howley, a Neil Jenkins â meddwl mawr ohono, felly os yw e gyda rhanbarth Cymreig, fe fydd e’n gwthio am le yn y tîm rhyngwladol.

“Mae ganddo’r x-factor yna.”