Alan Curtis
Mae rheolwr dros dro Abertawe yn dweud fod angen rhoi’r flaenoriaeth i arwyddo ymosodwr yn ystod cyfnod ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.

Eisoes mae’r clwb yn chwilio am reolwr wedi iddyn nhw ddiswyddo Garry Monk yn dilyn cyfres siomedig o ganlyniadau.

Gyda dim ond un fuddugoliaeth yn eu 13 gêm gynghrair ddiwethaf, maen nhw yn y safleoedd cwympo.

Rhaid cael ymosodwr, yn ôl Alan Curtis.

“Dyma’r mannau sydd angen eu cryfhau,” meddai’r rheolwr dros dro.

Bydd Abertawe gartref yn erbyn West Brom am dri dydd Sadwrn.