Mae’r Gleision wedi cadarnhau y byddan nhw’n arwyddo wythwr Ulster Nick Williams ar gyfer tymor 2016/17.
Fe symudodd y chwaraewr 32 oed o Seland Newydd i Ewrop yn 2008, gan gynrychioli Munster ac Aironi cyn symud i’r rhanbarth o Ogledd Iwerddon.
Mae’n cael ei ystyried yn chwaraewyr effeithiol am gario’r bêl, ac yn 2013 fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Tymor y Pro12.
Mae hefyd yn frawd i asgellwr y Chiefs Tim Nanai-Williams, ac yn gefnder i ganolwr Seland Newydd Sonny Bill Williams.
“Mae’n her newydd i mi a dw i’n edrych ymlaen ar ôl clywed beth mae Gleision Caerdydd eisiau ei gyflawni ar, ac oddi ar, y cae dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Nick Williams.
“Dw i’n teimlo mor gorfforol a meddyliol gryf ag erioed a dw i’n barod i wneud argraff.”