Leigh Halfpenny
Mae cyfarwyddwr rygbi Wasps, Dai Young, wedi cyfaddef eu bod nhw’n un o “chwech neu saith” clwb sydd yn ceisio arwyddo Leigh Halfpenny o Toulon.
Bydd cytundeb cefnwr Cymru gyda’i glwb presennol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac mae Toulon eisoes wedi cynnig estyniad iddo.
Ond y disgwyl yw bod y chwaraewr 27 oed yn gobeithio dychwelyd i Brydain, gyda rhanbarthau Cymru a chlybiau yn Lloegr ar ei ôl.
Os yw Halfpenny yn penderfynu ei fod am arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru fe allai ddychwelyd i’w gyn-ranbarth, y Gleision, ond mae’r Scarlets hefyd yn awyddus i’w ychwanegu at eu carfan.
‘Wasps yw’r ffefrynnau’
Mae perchennog Toulon eisoes wedi dweud ei fod yn credu mai Wasps yw’r ceffylau blaen os nad yw Halfpenny yn penderfynu aros yn Ffrainc.
Ond roedd Dai Young, cyn-hyfforddwr y Gleision, yn llai hyderus o sicrhau llofnod y chwaraewr.
“Rydyn ni’n un o’r clybiau sydd yn y ras. Dw i ddim am wadu hynny ond mae ganddo gwpl o glybiau yng Nghymru sydd eisiau e nôl ac mae ganddo opsiynau yn Lloegr hefyd,” meddai cyfarwyddwr rygbi Wasps.
“Dw i’n meddwl y bydd yn rhaid iddo wneud penderfyniad yn y flwyddyn newydd felly dw i ddim yn disgwyl clywed unrhyw beth am gwpl o wythnosau.
“Os yw e’n penderfynu ei fod e am ymuno â ni fe fyddai’n falch iawn, ond mae ganddo ddewis o ryw chwech neu saith.”