Yn dilyn penderfyniad ei bennaeth rygbi i ymddiswyddo, mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhannu’r swydd yn ddwy rôl newydd.

Fe wnaeth Josh Lewsey gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo o’i rôl fel pennaeth rygbi Undeb Rygbi Cymru fis diwethaf a bydd yn gadael ar ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r undeb bellach wedi dweud y bydd y rôl yn cael ei rhannu’n ddwy gyda ‘phennaeth perfformiad rygbi’ a ‘phennaeth cyfranogiad rygbi’ yn cael eu penodi ar ddechrau 2016.

Mae’r penderfyniad yn dilyn adolygiad strategol gan y prif weithredwr, Martyn Phillips yn ystod ei ddau fis cyntaf yn arwain corff llywodraethu’r gêm, a chafodd ei gymeradwyo gan Fwrdd yr undeb yn gynt y mis hwn.

Bydd pennaeth perfformiad rygbi’r undeb yn canolbwyntio ar y gêm broffesiynol a rhannol broffesiynol yng Nghymru.

 

Bydd hefyd yn arwain ar raglenni ar gyfer chwaraewyr sy’n cael ei nodi fel talent genedlaethol y dyfodol.

 

Tra bydd pennaeth cyfranogiad rygbi Cymru yn rhoi llais i’r gêm gymunedol ar Fwrdd Gweithredol yr undeb, gan ganolbwyntio ar rygbi i blant, ysgolion, menywod ac ail dimau clybiau rygbi.

 

“Gadael etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol”

 

“Mae fy ymchwil ledled Cymru drwy gydol yr hydref wedi fy helpu’n fawr i benderfynu ar strwythur effeithiol ar gyfer ein Bwrdd Gweithredol,” meddai Martyn Phillips.

 

“Mae angen i ni gymryd yr angerdd sydd wedi ein gwneud yn wych fel cenedl rygbi yn y gorffennol a’i gyfuno â phersbectif modern i ganfod fformiwla sy’n gweithio i’n cymunedau.

 

“Mae gennym gyfrifoldeb i adael etifeddiaeth gref i genedlaethau’r dyfodol o gefnogwyr, chwaraewyr a gwirfoddolwyr.”

Mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn penodi pennaeth digidol i’r Bwrdd Gweithredol i “adeiladu ar” ei chynnwys digidol. Bydd y penodiad hwn hefyd yn cael ei wneud yn y flwyddyn newydd.

Bydd y flwyddyn newydd hefyd yn gyfnod pryd fydd y prif weithredwr yn rhannu ei bwrpas, ei weledigaeth a’i strategaeth i grwpiau â diddordeb drwy ddigwyddiadau a chyfarfodydd rhanbarthol.