Gareth Davies
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi y bydd eu mewnwr poblogaidd, Gareth Davies, yn aros gyda’r rhanbarth tan 2018.

Fe ddywedodd y mewnwr, 25 oed, a fu’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul ei fod wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r Scarlets ac yn “edrych ymlaen at barhau yng ngorllewin Cymru.”

Mae Gareth Davies wedi ymddangos 120 o weithiau dros y Scarlets ers 2009, ac fe gafodd dymor llwyddiannus adeg Cwpan Rygbi’r Byd gan sgorio 5 cais i Gymru.

“Dw i’n edrych ymlaen at y cwpl o flynyddoedd nesaf yma yng ngorllewin Cymru,” meddai gan ychwanegu eu bod “i gyd yn edrych ymlaen at y gemau darbi dros y Nadolig.”