Mae prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson wedi gwneud pum newid i’w dîm wrth iddyn nhw deithio i Montpellier yn chwilio am ail fuddugoliaeth yn erbyn y Ffrancwyr.

Bydd y canolwr Garyn Smith, y mewnwr Tavis Knoyle, y prop Gethin Jenkins, y clo Lou Reed a’r wythwr Manoa Vosawai i gyd yn dychwelyd i’r pymtheg fydd yn dechrau’r gêm.

Mae’n golygu y bydd Rhys Patchell yn dechrau fel cefnwr unwaith eto, a hynny ar ôl iddo gyhoeddi’r wythnos hon y bydd yn symud i’r Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Fe enillodd y Gleision o 37-27 yn erbyn Montpellier gartref ym Mharc yr Arfau yng Nghwpan Her Ewrop y penwythnos diwethaf, ac fe fyddan nhw’n wynebu’i gilydd eto yn Stadiwm Altrad nos Iau.

Mae’r rhanbarth o Gaerdydd yn ail y tu ôl i Harlequins yng Ngrŵp Dau’r gystadleuaeth ar hyn o bryd, gyda hanner y gemau wedi’u chwarae.

‘Rhaid ennill’

Er gwaethaf absenoldeb Sam Warburton, Cory Allen, Gareth Anscombe, Ellis Jenkins, Gavin Evans a Dan Fish oherwydd anaf, a Matthew Rees oherwydd gwaharddiad, mae hyfforddwr y Gleision yn ffyddiog bod y tîm yn symud i’r cyfeiriad cywir.

“Os ydyn ni am gael allano’r grŵp mae hwn yn gêm sydd yn rhaid ei hennill yn y bôn,” meddai Danny Wilson.

“Os allwn ni eu curo nhw oddi cartref fe fydd hi mwyaf tebyg yn dod lawr i ornest rhyngom ni a’r Harlequins ym mis Ionawr i weld pwy fydd yn mynd â hi, ond rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r dasg sy’n ein hwynebu yn Ffrainc.

“Fe fydd trechu carfan fel yr un sydd gan Montpellier yn eu lle nhw yn dasg fawr. Ond rydyn ni wedi gwella ein perfformiadau’n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf.”

Tîm y Gleision: Gethin Jenkins (capt), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Jarrad Hoeata, Lou Reed, Macauley Cook, Josh Navidi, Manoa Vosawai; Tavis Knoyle, Jarrod Evans, Tom James, Rey Lee-Lo, Garyn Smith, Alex Cuthbert, Rhys Patchell

Eilyddion: Ethan Lewis, Sam Hobbs, Dillon Lewis, James Down, Josh Turnbull, Lloyd Williams, Tom Isaacs, Blaine Scully