Tîm Cymru'n dathlu cyrraedd Ewro 2016 (llun: CBDC)
Mae’r BBC wedi cadarnhau mai nhw fydd yn dangos gêm agoriadol Cymru yn Ewro 2016 yn erbyn Slofacia, yn ogystal â’r ornest fawr yn erbyn Lloegr.

ITV fydd yn darlledu gêm grŵp olaf Cymru yn erbyn Rwsia, wrth i’r darlledwyr benderfynu ar eu hamserlen terfynol nhw ar gyfer dangos gemau grŵp y gystadleuaeth.

Mae’r ddau ddarlledwr yn rhannu hawliau darlledu’r bencampwriaeth, ac fe fydd uchafbwyntiau’r holl gemau hefyd yn cael eu dangos gan y ddau.

Ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd S4C yn cael hawliau i ddarlledu gemau Cymru ochr yn ochr â’r BBC neu ITV, fel maen nhw’n ei wneud gyda rygbi ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd.

“Mae hwn am fod yn haf i’w gofio. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n dangos gêm gyntaf hanesyddol Cymru yn erbyn Slofacia a’r ‘le crunch’ hir ddisgwyliedig yn erbyn Lloegr,” meddai cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies.

Gêm agoriadol ar ITV

Bydd ITV yn dangos gêm agoriadol y gystadleuaeth rhwng Ffrainc a Rwmania, yn ogystal â’r ddwy arall o gemau Lloegr.

Mae’n debyg eu bod nhw wedi hepgor y cyfle i ddangos gêm Cymru v Lloegr er mai nhw gafodd y dewis cyntaf, oherwydd nad oedd amser y gic gyntaf am 2.00yp yn un cyfleus i geisio denu cynulleidfa fawr.

Ond gan fod ITV yn dangos gêm Lloegr v Slofacia ar yr un pryd a gêm Cymru v Rwsia, mae’n debygol y bydd gêm Cymru’n cael ei symud i ITV4.

Fe fydd ITV hefyd yn dangos dwy o dair gêm grŵp Gweriniaeth Iwerddon, tra bod y BBC yn dangos dwy o dair gêm grŵp Gogledd Iwerddon.

“Fe fydd Ewro 2016 yn dwrnament arbennig iawn, gyda 24 tîm ynddi am y tro cyntaf, yn cael ei chynnal mor agos at adre a chyda thri o wledydd Prydain yn ogystal â Gweriniaeth Iwerddon yn cystadlu,” meddai Cyfarwyddwr Chwaraeon ITV, Niall Sloane.

“Dyw hyn erioed wedi digwydd o’r blaen ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfleu’r digwyddiadau a’r cyffro o Ffrainc i’r gwylwyr adre.”

Amserlen darlledu gemau grŵp Ewro 2016

Dydd Gwener 10 Mehefin

20.00 (ITV) Ffrainc v Rwmania

Dydd Sadwrn 11 Mehefin

14.00 (BBC) Albania v Swistir

17.00 (BBC ) Cymru v Slofacia

20.00 (ITV) Lloegr v Rwsia

Dydd Sul 12 Mehefin

14.00 (ITV) Twrci v Croatia

17.00 (BBC) Gwlad Pwyl v Gogledd Iwerddon

20.00 (BBC) Yr Almaen v Wcrain

Dydd Llun 13 Mehefin

14.00 (ITV) Sbaen v Gweriniaeth Tsiec

17.00 (BBC) Gweriniaeth Iwerddon v Sweden

20.00 (BBC) Gwlad Belg v Yr Eidal

Dydd Mawrth 14 Mehefin

17.00 (ITV) Awstria v Hwngari

20.00 (BBC) Portiwgal v Gwlad yr Ia

Dydd Mercher 15 Mehefin

14.00 (BBC) Rwsia v Slofacia

17.00 (ITV) Rwmania v Swistir

20.00 (ITV) Ffrainc v Albania

Dydd Iau 16 Mehefin

14.00 (BBC) Lloegr v Cymru

17.00 (ITV) Wcrain v Gogledd Iwerddon

20.00 (ITV) Yr Almaen v Gwlad Pwyl

Dydd Gwener 17 Mehefin

14.00 (ITV) Yr Eidal v Sweden

17.00 (BBC) Gweriniaeth Tsiec v Croatia

20.00 (ITV) Sbaen v Twrci

Dydd Sadwrn 18 Mehefin

14.00 (ITV) Gwlad Belg v Gweriniaeth Iwerddon

17.00 (BBC) Gwlad yr Ia v Hwngari

20.00 (BBC) Portiwgal v Awstria

Dydd Sul 19 Mehefin

20.00 (BBC) Rwmania v Albania

20.00 (BBC) Swistir v Ffrainc

Dydd Llun 20 Mehefin

20.00 (ITV) Rwsia v Cymru

20.00 (ITV) Slofacia v Lloegr

Dydd Mawrth 21 Mehefin

17.00 (BBC) Gogledd Iwerddon v Yr Almaen

17.00 (BBC) Wcrain v Gwlad Pwyl

20.00 (ITV) Croatia v Sbaen

20.00 (ITV) Gweriniaeth Tsiec v Twrci

Dydd Mercher 22 Mehefin

17.00 (BBC) Hwngari v Portiwgal

17.00 (BBC) Gwlad yr Ia v Awstria

20.00 (ITV) Yr Eidal v Gweriniaeth Iwerddon

20.00 (ITV) Sweden v Gwlad Belg