Caerdydd 3–2 Brentford
Cipiodd gôl hwyr Kenwyne Jones y tri phwynt i Gaerdydd wrth i Brentford ymeld â Stadiwm y Ddinas yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.
Roedd hi’n ymddangos fod yr Adar Gleision yn mynd i orfod bodloni ar gêm gyfartal ar ôl ildio dwy gôl o fantais am y drydedd gêm gartref yn olynol tan i Jones sgorio yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Roedd y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen erbyn hanner amser diolch i goliau Tony Watt wedi ugain munud a Jones chwarter awr yn ddiweddarach.
Yn ôl y daeth cyn glwb Russell Slade wedi’r egwyl gyda peniad Jake Bidwell yn rhoi gobaith i’r ymwelwyr.
Roedd Brentford yn gyfartal bedwar munud o ddiwedd y naw deg diolch i John Swift ac roedd y cefnogwyr cartref yn dechrau cael deja vu.
Yna, gyda’r amser yn prysur ddiflannu rhwydodd Jones o groesiad Fabio i gipio’r fuddugoliaeth i’w dîm.
Mae Caerdydd yn aros yn seithfed yn nhabl y Bencampwriaeth er gwaethaf y fuddugoliaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Fabio, Noone (Ameobi 89′), Gunnarsson, Ralls, Pilkington (Malone 87′), Jones, Watt (Mason 68′)
Goliau: Watt 20’, Jones 34’, 90’
Cerdyn Melyn: Pilkington 81’
.
Brentford
Tîm: Button, Yennaris, Tarkowski, O’Connell, Bidwell, Woods, Diagouraga (Jota 62′), Kerschbaumer (McEachran 62′), Judge, Swift, Vibe (Hofmann 79′)
Goliau: Bidwell 69’, Swift 86’
Cerdyn Melyn: Diagourage 42’
.
Torf: 12,729