Mae’r Scarlets wedi gwneud 10 newid ar gyfer ymweliad y Zebre â Pharc y Scarlets yng nghynghrair y PRO12 ddydd Sul (2.30).

Mae’r Scarlets wedi ennill chwech allan o’u saith gêm gynghrair y tymor hwn, ac maen nhw’n drydydd yn y tabl, un pwynt y tu ôl i Munster a dau bwynt y tu ôl i Connacht.

Y clo Maselino Paulino yw’r unig chwaraewr ymhlith y pump yn y blaen sy’n cadw ei le.

Rob Evans, Emyr Phillips a Samson Lee sydd wedi’u henwi yn y rheng flaen, ac mae Lewis Rawlins yn dychwelyd i’r ail reng.

Aaron Shingler, James Davies a’r capten John Barclay sydd wedi’u henwi yn y rheng ôl.

Aled Davies ac Aled Thomas yw’r haneri, a DTH van der Merwe, Hadleigh Parkes, Regan King, Tom Williams a Steff Evans yw’r olwyr eraill.

Mae’r prop Rhodri Jones yn dychwelyd i’r fainc am y tro cyntaf ers cael ei anafu ym mis Ionawr.

Mewn datganiad, dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac fod y Zebre yn cynnig bygythiad o’r chwarae gosod.

“Maen nhw dipyn cryfach ac wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth yn erbyn dau dîm eitha da. Maen nhw’n sicr wedi gwella ac mae hynny’n beth da i’r gystadleuaeth.”

Scarlets: S Evans, T Williams, R King, H Parkes, DTH van der Merwe, A Thomas, A Davies; R Evans, E Phillips, S Lee, M Paulino, L Rawlins, A Shingler, J Davies, J Barclay (capten).

Eilyddion: K Myhill, D Evans, R Jones, G Earle, J Condy, R Williams, S Shingler, G Owen