Daeth record ddi-guro tîm hoci iâ’r Cardiff Devils ar eu tomen eu hunain yn y gynghrair i ben ddydd Sadwrn wrth i Nottingham Panthers ennill o 7-3.

Mae’r canlyniad yn y Babell Fawr Las yn gosod y Panthers ar y brig, tra bod tîm y brifddinas yn llithro i’r ail safle.

2-2 oedd y sgôr ar ddiwedd y ddau gyfnod cyntaf, ond sgoriodd yr ymwelwyr bum gwaith yn ystod yr ugain munud olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Daeth y goliau i’r ymwelwyr gan Robert Farmer, Brad Moran, Juraj Kolnik, David Ling (2), Matthew Myers ac Evan Mosey.

Andrew Lord, Andrew Hotham a Jake Morissette sgoriodd i’r Devils.

Mae capten y Devils, Tyson Marsh wedi’i wahardd rhag chwarae oddi cartref yn erbyn Coventry Blaze ddydd Sul yn dilyn cosb am daro pen gwrthwynebydd neithiwr.