Wrecsam 2–3 Macclesfield
Colli fu hanes Wrecsam wrth i Macclesfield ymweld â’r Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.
Hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf oedd hi pan agorodd Kristian Dennis y sgorio mewn steil i’r ymwelwyr gydag ergyd droed chwith o du allan i’r cwrt cosbi.
Roedd Wrecsam yn gyfartal wedi ychydig dros hanner awr o chwarae diolch ergyd Connor Jennings ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Dechreuodd yr ymwelwyr yn dda yn yr ail hanner ac roeddynt yn ôl ar y blaen wedi tri munud diolch i ergyd dda o bellter gan Dennis unwaith eto.
Rhoddodd gôl Danny Witaker ugain munud o’r diwedd olau dydd rhwng y ddau dîm am y tro cyntaf yn y gêm.
Tynnodd James Gray un gôl dda yn ôl i’r Dreigiau ond daliodd Macclesfield eu gafael yn y fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Macclesfield yn codi dros Wrecsam i’r seithfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol, gyda’r Dreigiau yn llithro i wythfed.
.
Wrecsam
Tîm: Taylor, Smith, Hudson, Moke, Newton, Fyfield, Carrington (Caton 84′), Evans (Gray 70′), York (O’Brien 60′), Jennings, Vose
Goliau: Jennings 32’, Gray 76’
Cerdyn Melyn: Newton 45’
.
Macclesfield
Tîm: Jalal, Cowan, Byrne, Lewis (Halls 92′), Fitzpatrick, Diagne, Holroyd, Dennis (Sampson 94′), Turnbull, Whitaker, Whitehead (Rowe 79′)
Goliau: Dennis 23’, 48’, Witaker 71’
Cerdyn Melyn: Dennis 25’
.
Torf: 4,591