Dreigiau Casnewydd Gwent 30–12 Sale

Cafodd y Dreigiau ddechrau da i’w hymgyrch yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Sale ar Rodney Parade brynhawn Sul.

Sefydlodd y Cymry fantais iach gyda thri chais yn yr hanner cyntaf, ac er i Sale wneud gêm ohoni am gyfnod yn yr ail hanner, y Dreigiau aeth â hi yn y diwedd gan sicrhau’r pwynt bonws hefyd gyda phedwerydd cais.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Dreigiau ar dân gyda chais da i’r blaenasgellwr ifanc, Ollie Griffiths, wedi dim ond pedwar munud.

Carlamodd y capten, Rynard Landman, drosodd am ail gais wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae, a chwblhaodd Adam Hughes ddeugain munud agoriadol gwych i’r Dreigiau gyda thrydydd chwe munud cyn yr egwyl.

Llwyddodd Dorian Jones gydag un trosiad allan o dri, 17-0 y sgôr ar hanner amser.

Ail Hanner

Rhoddwyd llygedyn o obaith i Sale yn gynnar yn yr ail gyfnod pan groesodd y mewnwr ifanc, James Mitchell, o dan y pyst.

Ac roedd yr ymwelwyr yn ôl yn y gêm yn fuan wedyn wedi i’r Cymro, Jon Mills, gael ei hyrddio drosodd o lein bump tra yr oedd Phil Price yn y gell gosb i’r Dreigiau.

Llwyddodd y Dreigiau i gadw Sale allan am weddill y deg munud. Yna, a hwythau yn ôl i bymtheg dyn toc wedi’r awr, fe lwyddodd Jones gydag ail gic gosb i ymestyn mantais ei dîm i un pwynt ar ddeg.

Rhoddwyd yr eisin ar y gacen bum munud o ddiwedd yr wyth deg pan groesodd yr eilydd, Matthew Screech, i ddiogelu’r fuddugoliaeth a sicrhau’r pwynt bonws i’r Dreigiau.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Dreigiau ar frig grŵp 2, grŵp sydd hefyd yn cynnwys Castres a Pau.

.

Dreigiau

Ceisiau: Ollie Griffiths 4’, Rynard Landman 27’, Adam Hughes 34’, Matthew Screech 75’

Trosiadau: Dorian Jones 27’, 75’

Ciciau Cosb: Dorian Jones 50’, 63’

Cerdyn Melyn: Phil Price 52’

.

Sale

Ceisiau: James Mitchell 47’, Jon Mills 53’

Trosiad: James Macleod 47’