Mae’r Gweilch wedi cadarnhau fod De Kock Steenkamp wedi cael ei ryddhau gan y rhanbarth ar ôl chwarae dim ond dwy gêm gystadleuol mewn 14 mis.
Cafodd y clo ei arwyddo o glwb y Stormers yn Ne Affrica tymor diwethaf ond mae wedi cael hunllef gydag anafiadau yn ystod ei gyfnod yn Abertawe.
Cafodd anaf i’w sawdl o fewn dyddiau cyntaf ei gyfnod gyda’r Gweilch, gan fethu tymor 2014/15 i gyd, cyn gwella mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor eleni.
Ond ar ôl dwy gêm fe gafodd anaf arall i’w glun, ac mae’r chwaraewr a’r rhanbarth wedi cytuno i ddiddymu ei gytundeb fel ei fod yn gallu dychwelyd i’w wlad enedigol i barhau â’i driniaeth.
‘Rhwystredig a siomedig’
Cyfaddefodd De Kock Steenkamp ei fod wedi teimlo’n “rhwystredig a siomedig iawn” o fod wedi methu â chyfrannu mwy i’r Gweilch yn ystod ei arhosiad.
“Roedd e’n her newydd i mi, ac un roeddwn i’n meddwl fyddai’n brofiad da, ond mae’r anaf wedi golygu nad ydw i wedi llwyddo i wneud yr argraff yna,” meddai’r clo 28 oed.
“Mae’n anffodus iawn mod i ddim wedi gallu helpu’r tîm, yn enwedig yn ystod cyfnod anodd fel hwn, achos fe wnaethon nhw ddod a fi fewn oherwydd fy mhrofiad i.”
Ychwanegodd rheolwr rygbi cyffredinol y Gweilch Andrew Milward fod y rhanbarth yn dymuno’n dda iddo wrth iddo ddychwelyd i Dde Affrica.