James Collins yn gadael y cae ar ôl ei gerdyn coch (llun: Scott Heavey/PA)
Prynhawn cymysglyd oedd hi i’r Cymry amddiffynnol yn yr Uwch Gynghrair, wrth i ambell un helpu’u tîm i sicrhau canlyniadau da ond eraill yn parhau i’w chael hi’n anodd yn ddiweddar.

Cadwodd Wayne Hennessey ei drydedd lechen lân mewn pum gêm dros Crystal Palace wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Man United.

Yr un oedd y sgôr rhwng Stoke a Newcastle, gyda Paul Dummett yn chwarae’i ran fel cefnwr chwith yn sicrhau nad oedd y Magpies yn ildio y tro yma ar ôl cael eu chwalu gan Sunderland yn eu gêm flaenorol.

Dim cystal perfformiad amddiffynnol gan Ashley Williams a Neil Taylor, fodd bynnag, wrth i Abertawe golli 3-0 gartref yn erbyn Arsenal gyda Williams yn cael cerdyn melyn ac yn edrych yn ansicr ar adegau.

Ac fe orffennodd prynhawn un o amddiffynwyr Cymru hyd yn oed yn waeth, gyda James Collins yn gweld cerdyn coch saith munud o ddiwedd colled West Ham o 2-0 yn erbyn Watford am dacl flêr.

Daeth Andy King ymlaen fel eilydd am ugain munud wrth i Gaerlŷr ddal gafael ar fuddugoliaeth yn erbyn West Brom, ond aros ar y fainc wnaeth Joe Allen, Joe Ledley a James Chester i’w clybiau.

Dyw Aaron Ramsey ddim yn agos at ddychwelyd o anaf i Arsenal eto, ond mae’n bosib y bydd Gareth Bale yn holliach erbyn i Real Madrid herio Sevilla y penwythnos nesaf.

Y Bencampwriaeth

Sgoriodd Dave Edwards am yr ail gêm yn olynol wrth i Wolves ennill am y tro cyntaf mewn pedair gêm a threchu David Cotterill a Birmingham yn eu darbi leol.

Cipiodd Burnley fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Huddersfield, gyda throsedd gan Joel Lynch yn gyfrifol am roi cic o’r smotyn ar gyfer gôl gyntaf y Clarets, a Sam Vokes yn creu ail gôl ei dîm gan sicrhau bod tîm Lynch ac Emyr Huws yn gadael yn waglaw.

Cyfartal oedd hi rhwng timau Chris Gunter ac Andrew Crofts wrth i’r gêm rhwng Reading a Brighton orffen yn 1-1, ond fe gollodd David Vaughan a Jonny Williams o 1-0 gyda Nottingham Forest yn erbyn Sheffield Wednesday.

Colli oedd hanes Morgan Fox gyda Charlton a Simon Church gyda MK Dons, tra bod Wes Burns wedi ar y fainc i Ddinas Bryste a Michael Doughty wedi gwneud yr un peth gyda QPR.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe agorodd Celtic y bwlch ar y brig ar Aberdeen i saith pwynt wrth drechu’r Dons 3-1, gydag Ash Taylor ar fai am y ddwy gôl gyntaf a Danny Ward yn methu â gwneud llawer i achub ei dîm yn y gôl.

Ac fe orffennodd hi’n 1-1 rhwng Inverness a Dundee, gydag Owain Fôn Williams yn y gôl eto i Caley ac yn ildio o gic o’r smotyn.

Seren yr wythnos – Dave Edwards. Ail gôl mewn dwy gêm wrth i Wolves droi cornel.

Siom yr wythnos – James Collins. Dadleuol a oedd e’n haeddu cerdyn coch, ond dim amheuaeth fod ganddo dueddiad o hyd i golli’i ben a gwneud rhywbeth twp.