Mae Wayne Pivac wedi cau pen y mwdwl ar sïon ei fod am adael ei rôl fel prif hyfforddwr y Scarlets wrth arwyddo estyniad i’w gytundeb.

Roedd sôn bod gwledydd fel Siapan yn awyddus i ddenu’r hyfforddwr yn dilyn Cwpan Rygbi’r Byd, a hynny ychydig dros flwyddyn ers iddo symud i Barc y Scarlets.

Ond mae’r rhanbarth wedi cyhoeddi ei fod wedi arwyddo cytundeb i aros am ddwy flynedd arall, a hynny wrth i’r tîm eistedd ar frig cynghrair y Pro12 ar hyn o bryd.

Mae’r tîm wrthi’n paratoi i herio’r Dreigiau heno ym Mharc y Scarlets yn eu gêm gynghrair ddiweddaraf.

Yr arian yno

“Mae Wayne wedi gwneud marc ers cymryd yr awenau yma tymor diwethaf,” meddai Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets Jon Daniels wrth gadarnhau’r newyddion.

“Mae wedi adeiladu grŵp hyfforddi cryf o’i amgylch yn Stephen [Jones], Byron [Hayward] ac Ioan [Cunningham] ac ry’n ni’n gweld ffrwyth eu llafur gyda dechrau cryf i’r tymor.

“Ry’n ni’n falch iawn bod Wayne yn gweld ei hun fel rhan o’r Scarlets ac ry’n ni’n falch o fod mewn sefyllfa i gadarnhau ei lofnod mor gynnar yn y tymor.

“Ry’n ni wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn yr amgylchedd yma ym Mharc y Scarlets a recriwtio yn y misoedd diwethaf. Mae sicrhau llofnod Wayne yn brawf o amcanion y rhanbarth i lwyddo ar y lefel uchaf.”

Gweld potensial

Ychwanegodd Wayne Pivac bod gweld y potensial oedd yng ngharfan y Scarlets wedi’i berswadio mai yno yr oedd e am aros.

“Rwy’n hapus iawn fy mod wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r clwb am y ddwy flynedd nesaf a hoffwn ddiolch i fwrdd y Scarlets am eu cefnogaeth,” meddai’r hyfforddwr.

“Ar ôl gweithio gyda’r garfan am y 15 mis diwethaf, a gweld y datblygiad, roedd wastad yn un o fy amcanion i barhau gyda’r gwaith a gweld y tîm yn cyrraedd eu llawn botensial.

“Pobl sy’n gwneud y lle ac mae gyda ni grŵp arbennig yn Byron, Steve ac Ioan ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros y tymor neu ddwy nesaf.”