Alun-Wyn Jones
Mae Alun-Wyn Jones wedi cael ei gynnwys gan World Rugby ar restr fer o chwech ar gyfer gwobr Chwaraewr y Flwyddyn 2015.

Cafodd clo Cymru ei enwi ochr yn ochr â Greig Laidlaw o’r Alban, Michael Hooper a David Pocock o Awstralia, a Julian Savea a Dan Carter o Seland Newydd.

Dim ond un Cymro sydd wedi ennill y wobr ers iddi gael ei sefydlu nôl yn 2001, pan gipiodd Shane Williams y fraint yn 2008.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sul (Tachwedd 1), ddiwrnod wedi i Seland Newydd ac Awstralia herio’i gilydd yn rownd derfynol Cwpan y Byd.

Panel yn dewis

Fe enillodd Alun Wyn Jones ei 100fed cap rhyngwladol yn ystod gêm Cymru yn erbyn De Affrica yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd, ar ôl cynrychioli’i wlad 94 o weithiau a’r Llewod chwe gwaith.

Ond fe fydd y clo 30 oed yn wynebu cystadleuaeth gref am y wobr gan y chwaraewyr o Seland Newydd ac Awstralia yn enwedig, gyda maswr y Crysau Duon Dan Carter yn ceisio’i chipio am y trydydd tro.

Mae’r panel dewis ar gyfer y wobr yn cynnwys y cyn-chwaraewr Will Greenwood, Gavin Hastings, Raphaël Ibanez, Francois Pienaar, Agustín Pichot, Scott Quinnell, Tana Umaga a Paul Wallace, y newyddiadurwyr Pierre Galy (AFP), Stephen Jones (The Sunday Times), Georgina Robinson (Sydney Morning Herald), Jim Kayes (TV3) a Sergio Stuart (Ole, Argentina) a chynrychiolwyr o’r 20 tîm oedd yn rhan o Gwpan y Byd.

Mae’r panel wedi bod yn gwylio pob un o gemau Cwpan y Byd yn ogystal â chystadlaethau rhyngwladol eraill eleni gan gynnwys Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Pencampwriaeth Rygbi hemisffer y de a Chwpan Cenhedloedd y Môr Tawel.