Taulupe Faletau
Fe fydd Taulupe Faletau yn dychwelyd i chwarae i dîm y Dreigiau nos Wener am y tro cyntaf ers Cwpan Rygbi’r Byd pan fydd y rhanbarth o Went yn teithio i Barc y Scarlets ar gyfer darbi Gymreig gyntaf y tymor.

Yr wythnos hon fe wrthododd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland roi caniatâd i’r wythwr gynnal trafodaethau ynglŷn â symud o’r Dreigiau i Gaerfaddon.

Mae’n debygol felly y bydd Faletau’n aros yn Rodney Parade tan o leiaf diwedd y tymor, pan mae ei gytundeb presennol yn dod i ben.

Mae’r Dreigiau wedi gwneud pedwar newid i’w tîm ar gyfer yr ornest yn erbyn y Scarlets, gyda’r maswr Dorian Jones, y mewnwr Charlie Davies a’r clo Rynard Landman hefyd yn dychwelyd i’r tîm.

Robinson yn ôl dros y Scarlets

Mae’r Scarlets ar y llaw arall yn croesawu Harry Robinson yn ei ôl am ei gêm gyntaf ers gwella o lawdriniaeth i’w wddw.

Mae Tom Williams hefyd wedi’i ddewis ar yr asgell, gyda Hadleigh Parkes yn symud nôl i’r canol, tra bod y prop Peter Edwards a’r blaenasgellwr Aaron Shingler hefyd yn dychwelyd.

Mae’r Scarlets hefyd wedi penderfynu gorffwys rhai o’u chwaraewyr fu’n cystadlu yng Nghwpan y Byd yn ddiweddar gan gynnwys Gareth Davies, Samson Lee a DTH van der Merwe.

Ond un a allai ymddangos o’r fainc yw Jacob Cowley, mab y canolwr Regan King, a phetai hynny’n digwydd nhw fyddai’r tad a’r mab cyntaf erioed i chwarae dros y Scarlets yn yr un gêm.

Dyw Bois y Sosban heb golli gêm eto’r tymor hwn, ac fe gyfaddefodd eu prif hyfforddwr Wayne Pivac mai nhw mwy na thebyg fydd y ffefrynnau ar gyfer y gêm.

Bydd y gic gyntaf rhwng y Scarlets a’r Dreigiau am 6.00yh nos Wener ac mae’r gêm yn fyw ar BBC Two Wales.

Tîm y Scarlets

Phil John, Ken Owens (capt), Peter Edwards, Jake Ball, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay; Rhodri Williams, Steven Shingler, Harry Robinson, Hadleigh Parkes, Regan King, Tom Williams, Aled Thomas (Eilyddion: Emyr Phillips, Dylan Evans, Will Taylor, George Earle, Jack Condy, Aled Davies, Dan Jones, Jacob Cowley)

Tîm y Dreigiau

Boris Stankovich, Elliot Dee, Brok Harris, Matthew Screech, Rynard Landman (capt), Ed Jackson, Nic Cudd, Taulupe Faletau; Charlie Davies, Dorian Jones, Nick Scott, Adam Warren, Adam Hughes, Ashton Hewitt, Jason Tovey (Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Shaun Knight, Cory Hill, Ollie Griffiths, Sarel Pretorius, Geraint Rhys Jones, Carl Meyer)