Taulupe Faletau (llun: PA)
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi atal Taulupe Faletau rhag trafod â Chaerfaddon ynglŷn â symud o’r Dreigiau.

Mae cytundeb y blaenasgellwr yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac roedd y Dreigiau yn awyddus i’w werthu i’r clwb o Loegr nawr yn hytrach na’i weld yn mynd am ddim haf nesaf.

Roedd Faletau ei hun hefyd yn awyddus i siarad â Chaerfaddon, ond mae’n debyg bod Gatland wedi gwrthod caniatáu hynny yn unol â’r cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau gafodd ei arwyddo llynedd.

Priestland wedi agor y drws

O dan y cytundeb mae cyfyngiadau bellach ar nifer y chwaraewyr sydd ddim yn chwarae yng Nghymru sydd yn gymwys i gael eu dewis ar gyfer y tîm cenedlaethol.

Mae’n golygu y byddai’n rhaid cael caniatâd Gatland cyn i chwaraewr fel Faletau symud i Loegr, rhywbeth nad oedd hyfforddwr Cymru  yn awyddus i’w roi.

Dywedodd prif weithredwr y Dreigiau Stuart Davies fod y clwb a Faletau wedi cytuno y byddai siarad â Chaerfaddon yn syniad da, yn enwedig gan fod penderfyniad maswr Caerfaddon Rhys Priestland i gymryd saib o rygbi rhyngwladol yn golygu bod lle ychwanegol ar gyfer dewis rhywun o glybiau Lloegr yng ngharfan Cymru.

“Roedd ein penderfyniad ni i ystyried y trosglwyddiad yn un pwyllog, ar ôl i ni ystyried nifer o ffactorau,” esboniodd Stuart Davies.

“Tra’n bod ni’n parchu amcanion y cytundeb rygbi, mae’n siomedig yn amlwg yn yr achos yma nad oedden ni’n gallu gweithredu’n annibynnol ac ystyried beth oedd orau i’r rhanbarth neu gael cefnogaeth er mwyn cael y canlyniad roedden ni wedi dymuno’i weld.”