Fe wnaeth y Dreigiau sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf eleni wrth guro’r Gweilch o 31-20 ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 6).

Sgoriodd Jonah Holmes ac Ashton Hewitt ddau gais yr un, gydag Aaron Wainwright yn sgorio’r llall, tra bod Sam Davies wedi sgorio chwe phwynt gyda’i droed i gipio’r pwynt bonws.

Sgoriodd Kieron Williams ddau gais i’r Gweilch, tra bod Stephen Myler wedi cicio deg pwynt.

Roedd y Dregiau dan bwysau ar ddechrau’r ornest wrth ildio cynifer o giciau cosb nes bod y clo Joe Davies wedi cael cerdyn melyn am wthio yn y lein.

Ond y Dregiau sgoriodd gyntaf, gyda Hewitt yn cael y bêl ar ôl iddi gael ei lledu o’r sgrym ac yn ei rhoi i’r blaenasgellwr Wainwright i groesi, a Davies yn trosi.

Ymatebodd Myler gyda chic gosb cyn i Williams hyrddio drosodd am gais gyda chymorth Tiaan Thomas-Wheeler, a Myler yn ychwanegu’r trosiad i’w gwneud hi’n 10-7 i’r Gweilch ar yr egwyl.

Ail hanner

Y Dreigiau, serch hynny, oedd gryfaf ar ddechrau’r ail hanner wrth i Wainwright ryddhau’r mewnwr Gonzalo Bertranou, a hwnnw’n lledu i Holmes i groesi am ail gais yr ymwelwyr.

Tarodd y Gweilch yn ôl o fewn dim o dro, gyda Dan Evans yn bylchu cyn rhyddhau Reuben Moran-Williams, a’r canolwr Williams yn croesi am ail gais.

Gyda’r Gweilch ar y blaen, parhau i frwydro wnaeth y Dreigiau ac fe gafodd Rhys Davies gerdyn melyn am adael y lein i gwympo.

Manteisiodd y Dreigiau ar ddyn ychwanegol wrth i Hewitt groesi yn y gornel.

Roedd y Gweilch ar y blaen eto pan giciodd Myler gic gosb, ond brwydrodd y Dreigiau wrth i Josh Lewis fylchu a rhoi Holmes drosodd.

Bylchodd Hewitt yn dilyn pàs gan Rhodri Williams, a Davies yn trosi i sicrhau’r fuddugoliaeth.