Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad yw e am gael ei dynnu i mewn i ffrae yn dilyn sylwadau Neil Warnock, rheolwr Middlesbrough, am ei gysylltiadau teuluol â chyn-ddyfarnwr.

Ar ôl i’r Elyrch guro Middlesbrough o 2-1 yn Stadiwm Liberty ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 6), awgrymodd Warnock fod tîm Cooper yn cael ffafriaeth am fod ei dad yn gyn-ddyfarnwr.

Cafodd Abertawe gic o’r smotyn ym munud ola’r gêm – saith munud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau, y ail waith mewn pedwar diwrnod iddyn nhw gael cic o’r smotyn sydd wedi arwain at ffrae.

Wrh gyfeirio at gic o’r smotyn yn y gêm yn erbyn Stoke ganol yr wythnos, dywedodd Warnock fod y penderfyniad o blaid yr Elyrch yn “sgandal”.

“Rhaid eu bod nhw’n chwerthin eu pennau i ffwrdd ar hyn o bryd ond mae’r pethau hyn yn troi mewn cylchoedd,” meddai Warnock mewn cyfweliad ar ôl y gêm.

“Mae’n siŵr y gwelwn ni Abertawe [yn y Bencampwriaeth] y flwyddyn nesaf.

“Allan nhw ddim parhau i gael cymaint o lwc â chiciau o’r smotyn.

“Dw i ddim yn gwybod ai tad Cooper sy’n dylanwadu hyn. Mae’n rhaid bod ganddo fe’r rhifau i gyd.

“Dyna’r unig beth alla i feddwl amdano fe. Ond â rhoi’r jôc i’r naill ochr, allan nhw ddim parhau i gael penderfyniadau fel hwnnw.”

Ymddiheuriad?

Ymhell o ymddiheuro am ei sylwadau tanllyd, sydd wedi cael ymateb cymysg ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Neil Warnock yn dweud ei fod e’n disgwyl ymddiheuriad ei hun gan Alan Wiley, pennaeth y dyfarnwyr.

Ar ôl i’r dyfarnwr Gavin Ward ymddangos fel pe bai’n rhoi cic gornel, fe bwyntiodd at y smotyn.

Ac fe allai Middlesbrough fod wedi sgorio’n gynnar yn yr ail hanner ond chafodd gôl Marc Bola mo’i chaniatáu gyda’r ergydiwr yn euog o drosedd.

“Dw i wedi cael cynifer o ymddiheuriadau fel nad ydw i’n gwybod beth i’w wneud â nhw i gyd,” meddai Warnock.

“Roedd tri pheth.

“Mae [Ryan] Manning wedi cymryd [Anfernee] Dijksteel allan a dyw’r un o’r swyddogion wedi’i weld e.

“Mae’n drosedd ddifrifol ac mae’n dod i ffwrdd wedi’i anafu, dim cerdyn ac mae hynny’n anghywir.

“Gyda’r gôl, roedd e’n meddwl ei bod hi’n gic rydd iddyn nhw, doedd e ddim wedi gweld bod [Yannick] Bolasie wedi ennill y bêl.

“Mae hi naill ai’n gic o’r smotyn neu’n gôl.

“Dw i ychydig yn syfrdan am y gic o’r smotyn.

“Fe wnaeth e bwyntio am gic gornel ond mae’n fy sicrhau pan wnaeth e feddwl amdani nad oedd George wedi cael y bêl a’i bod hi’n gic o’r smotyn.

“Gofynnais i, ‘Pam wnaethoch chi bwyntio at y faner gornel? Oeddech chi’n dyfalu? Ond dyna ddywedodd e.”

Ymateb Steve Cooper

“Y cyfan mae ots gen i amdano fe yw ni ein hunain,” meddai Steve Cooper.

“Bydda i ond yn gwneud sylw amdanom ni ein hunain.

“Does dim diddordeb gyda fi mewn clybiau eraill, dw i wedi bod felly erioed.

“Dw i jyst yn sicrhau ein bod ni’n cadw at ein gwerthoedd a’n hurddas o ran beth mae’r gymuned a’r clwb yn ei haeddu.”

Ffrae hiliaeth

Yn y cyfamser, mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi ymateb ar ôl i sylwadau hiliol un o’u chwaraewyr ar y cyfryngau cymdeithasol ddod i’r fei.

Cafodd y sylwadau eu gwneud gan Paul Arriola yn 2012, ymhell cyn iddo ymuno â’r Elyrch.

Roedd ei drydariadau’n dyfynnu geiriau sarhaus am bobol groenddu, ac yn cynnwys sylwadau am liw croen pobol Indiaidd.

“Rydym am egluro nad ydyn ni’n cymeradwyo unrhyw fath o ymddygiad rhagfarnllyd gan unrhyw un sy’n gysylltiedig â’n clwb,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Mae Abertawe wedi bod yn trafod y mater â Paul, ac rydym yn cefnogi ei benderfyniad i fod yr un sy’n mynd i’r afael â’r trydariadau hanesyddol hyn ac i gyhoeddi ymddiheuriad.

“Mae Paul wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn hyfforddiant rhagfarn gydwybodol ac anghydwybodol, y bydd e’n ei wneud wrth ddychwelyd i DC United.

“Fydd Abertawe ddim yn gwneud sylw pellach ar y mater.”

Daw’r helynt yn fuan ar ôl i Yan Dhanda, un o chwaraewyr yr Elyrch, gynnal cynhadledd i’r wasg i drafod negeseuon hiliol a gafodd eu hanfon ato ar Instagram.