Mae tîm pêl-droed Sutton wedi colli cyfle i ddychwelyd i frig y Gynghrair Genedlaethol ar ôl i Wrecsam gipio pwynt oddi cartref ar ôl gêm ddi-sgôr neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 6).

Daeth cyfleoedd cynnar i Wrecsam drwy Reece Hall-Johnson, Jordan Davies a Dior Angus cyn i Craig Eastmond gael cyfle i Sutton.

Ail hanner digon ddifflach oedd e cyn i ergyd Kwame Thomas godi ofn ar Sutton ar ôl 72 munud.

Daeth cyfle hwyr i Sutton drwy Omar Bugiel yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau, ond aeth ei beniad yn syth i ddwylo’r golwr Christian Dibble.

Mae Sutton yn ail yn y tabl, tra bod Wrecsam yn bumed o hyd.