Caernarfon 2-2 Aberystwyth

Cafwyd drama hwyr ar yr Oval wrth i Gaernarfon ac Aberystwyth gael gêm gyfartal ddydd Sadwrn. Wedi deg wythnos o seibiant, fe gymerodd hi dipyn i’r gêm gynhesu a daeth tair o bedair gôl y prynhawn yn y deg munud olaf.

Gavin mewn gofal

Mae dipyn wedi newid ers i Aberystwyth chwarae ddiwethaf, ond dim llawer wedi newid ychwaith. Yn dilyn rhediad gwael, fe gynigiodd y rheolwr, Gavin Allen, ei ymddiswyddiad ym mis Rhagfyr ac er i’r clwb dderbyn yr ymddiswyddiad hwnnw yn wreiddiol, roeddynt wedi newid eu meddwl erbyn i’r gynghrair ail ddechrau. Diddorol!

Wynebau newydd

Efallai nad oedd newid rheolwr yn y diwedd ond mae sawl wyneb newydd wedi cyrraedd y clwb o ran chwaraewyr dros yr wythnosau diwethaf yn ogystal ag ambell wyneb cyfarwydd.

Un o’r wynebau cyfarwydd hynny a’u rhoddodd ar y blaen yn y gêm hon, John Owen yn sgorio ar y foli yng ngêm gyntaf ei ail gyfnod gyda’r clwb.

Drama hwyr

Roedd y Cofis yn meddwl eu bod wedi cipio’r tri phwynt gyda dwy gôl mewn dau funud tua diwedd y gêm. Unionodd Jake Bickerstaff y sgôr gyda gôl yn ei ymddangosiad cyntaf ers ymuno ar fenthyg o Wrecsam ac fe roddodd Sion Bradley’r tîm cartref ar y blaen gyda gôl unigol dda.

Ond roedd mwy o ddrama i ddilyn wrth i gic rydd wych Jamie Veale gipio pwynt i Aber yn y seithfed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Pwy a ŵyr beth yr oedd Josh Tibbetts wedi ei ddweud wrth Owain Jones yn ystod y gêm ond roedd gan chwaraewr Aberystwyth ddigon i’w ddweud wrth gôl-geidwad Caernarfon ar ôl iddo ildio’r gôl hwyr!

 *

Cei Connah 2-1 Y Drenewydd

Cadwodd Cei Connah y pwysau ar y Seintiau ar y brig gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn y Drenewydd yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy.

A gwnaeth y Nomadiaid hynny ar ôl mynd gôl ar ei hôl hi ac i lawr i ddeg dyn yn chwarter cyntaf y gêm.

Dechrau da i’r Drenewydd

Deunaw munud a oedd ar y cloc pan roddodd Alex Fletcher yr ymwelwyr ar y blaen gyda gôl unigol dda, yn curo’i ddyn cyn taro ergyd gywir o ochr y cwrt cosbi.

Daeth eiliad fawr y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wrth i Jamie Insall dderbyn cerdyn coch hollol haeddiannol am wneud fel Breian Fawr gynt a rhychu George Hughes.

Gôl ddadleuol

Roedd deg dyn Cei Connah yn gyfartal o fewn ychydig funudau diolch i gôl ddadleuol George Horan, yr amddiffynnwr yn penio i rwyd wag wedi iddi ymddangos i Mike Wilde benio’r bêl o ddwylo’r gôl-geidwad, Dave Jones.

Dim Priestley, dim problem

Llwyr reolodd y tîm cartref wedi hynny ac nid oedd dim byd dadleuol am gôl fuddugol Wilde toc cyn yr awr.

Nid yw tafliadau hir Priestley Farquharson yn arf sydd ar gael i dîm Andy Morrison bellach wedi i’r amddiffynnwr mawr adael am Gasnewydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Tafliad cyflym amdani felly a dyna’n union a arweiniodd at beniad postyn agosaf Wilde.

Mae’r canlyniad yn rhoi pencampwyr y tymor diwethaf o fewn pwynt i’r brig gyda gêm wrth gefn ar y Seintiau.

*

Derwyddon Cefn 0-1 Y Barri

David Cotterill a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r Barri guro’r Derwyddon Cefn ar y Graig.

Rhwydodd y cyn chwaraewr rhyngwladol o’r smotyn toc cyn yr egwyl i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Gavin Chesterfield.

Peint ar ôl gêm?

Mae drama wedi dilyn y Derwyddon Cefn oddi ar y cae y tymor hwn ac roedd helynt eto’r wythnos hon wrth i Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad cymdeithasol yn y clwb yn dilyn gêm gyfeillgar yn erbyn Airbus nos Sadwrn diwethaf.

Ac afraid dweud fod gan eu cadeirydd dadleuol, Des Williams, rywbeth i’w ddweud ar y mater hwnnw (fel pob mater arall)!

Unig gôl y gêm

Nid oedd achos dathlu i Des na’r Derwyddon yn dilyn ymweliad y Barri wedi i gôl Cotterill gipio’r tri phwynt i’r tîm o Fro Morgannwg.

Cafodd Nat Jarvis ei lorio yn y cwrt cosbi ac anelodd Cotterill ei gic heibio i Dawid Szczepaniak yn y gôl.

 *

Hwlffordd 1-0 Met Caerdydd

Mae tymor da Hwlffordd yn parhau wedi iddynt drechu Met Caerdydd ar Ddôl y Bont yn eu gêm gyntaf yn ôl wedi’r seibiant.

Roedd un gôl yn ddigon i ennill y gêm i’r tîm o Sir Benfro a’u cadw yn y chwech uchaf yn y tabl.

Yr holl Jazz ’na

Newyddion mawr y dydd o Hwlffordd oedd y ffaith iddynt arwyddo cyn chwaraewr Abertawe a Chaerdydd, Jazz Richards. Ac fel sy’n arferol y dyddiau hyn, mewn ymdrech i blesio’r plantos, cyhoeddodd y clwb y newyddion mewn modd creadigol ar y cyfryngau cymdeithasol!

Mae’r cefnwr wedi ennill 14 o gapiau dros Gymru, gyda’r diwethaf o’r rheiny’n dod mor ddiweddar â 2018. Ag yntau ddim ond yn 29 oed, dyma dipyn o bluen yn het Hwlffordd a’r Cymru Premier.

Gyda Richards yn Hwlffordd a David Cotterill yn y Barri, mae 9% o garfan Cymry o’r Ewros yn 2016 bellach yn chwarae yn ein cynghrair genedlaethol!

Y gêm

Cyn y cyhoeddiad hwnnw, roedd Hwlffordd eisoes yn cael diwrnod da diolch i’r fuddugoliaeth dros Met.

Cic o’r smotyn Danny Williams a oedd yn gyfrifol am hynny. Enillodd y blaenwr ifanc sydd ar fenthyg o Gaerdydd y gic ei hun gyda rhediad pwrpasol i’r cwrt cosbi cyn plannu’r bêl yn daclus yn y gornel uchaf o ddeuddeg llath.

 *

Y Fflint 0-1 Penybont

Penybont a aeth â hi wrth iddynt deithio i Gae y Castell i wynebu’r Fflint ddydd Sadwrn.

Hon oedd ail gêm Penybont ers y toriad yn dilyn taith i’r Drenewydd nos Fawrth. Colli fu hanes tîm Rhys Griffiths ganol wythnos ond roedd gôl gynnar Nathan Wood yn ddigon i gipio’r tri phwynt yn erbyn y Fflint.

Tîm newydd

Mae’r Fflint wedi arwyddo digon o chwaraewyr newydd i roi tîm hollol newydd ar y cae ers y tro diwethaf iddynt gicio pêl yn y Cymru Premier.

Mae’n cymryd amser i chwaraewyr newydd ddod i arfer â’i gilydd wrth gwrs ac efallai nad oedd llawer o syndod gweld Penybont yn mynd ar y blaen wedi dim ond deg munud o’r gêm hon; Mael Davies yn croesi a Nathan Wood yn gorffen yn daclus.

Mae’r canlyniad yn cadw Penybont yn yr hanner uchaf ond gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn cadw’r Fflint allan o safleoedd y gwymp. Os bydd cwymp hynny yw!

 *

Y Seintiau Newydd 0-0 Y Bala

Di sgôr oedd hi wrth i’r Bala deithio i Neuadd y Parc i wynebu’r Seintiau Newydd yng ngêm fyw Sgorio nos Sadwrn.

Cei Connah mae’n debyg a fydd hapusaf wedi i’r timau sydd yn gyntaf ac yn drydydd yn y tabl orfod bodloni ar bwynt yr un er gwaethaf gêm ddigon adloniadol.

Rheoli heb rwydo

Y Seintiau a lwyr reolodd y meddiant a bu’n rhaid i Alex Ramsay fod ar ei orau rhwng y pyst i’r Bala.

Ond er gwaethaf goruchafiaeth y tîm cartref, gallant ddiolch i’r dyfarnwr am ambell benderfyniad digon dadleuol a aeth o’u plaid.

Gallai Jon Routledge yn hawdd fod wedi derbyn cerdyn coch am ben elin ar Will Evans ar yr awr ac fe benderfynodd Iwan Griffith hefyd nad oedd y bêl wedi taro braich sylweddol Ryan Astles yn y cwrt cosbi yn y munudau olaf

Wynebau cyfarwydd

Wyneb cyfarwydd i’r gynghrair a oedd yn arwain y llinell flaen i’r Seintiau. Arwyddodd cyn chwaraewr Met Caerdydd, Adam Roscrow, yn ystod y ffenestr drosglwyddo yn dilyn deunaw mis yn Wimbledon, deunaw mis digon aflwyddiannus mewn gwirionedd.

Mae’n debyg ei fod ar gyflog go deidi yng Nghroesoswallt ond ychydig iawn o argraff a gafodd yn ei gêm gyntaf cyn cael ei eilyddio am Greg Draper hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Un a ddychwelodd i fainc y Bala yn dilyn cyfnod i ffwrdd am resymau gwahanol iawn a oedd Danny Gosset. Mae’r gŵr o’r Felinheli wedi bod allan o’r gêm am bron i ddwy flynedd yn brwydro gyda chancr y gwaed.

Ni ddaeth i’r cae yn y gêm hon ond mae Colin Caton yn rhagweld y bydd ei chwaraewr canol cae yn chwarae rhan bwysig i’w dîm rhwng nawr a diwedd y tymor.

 

Gwilym Dwyfor