Mae Cwpan Rygbi’r Byd eleni wedi dangos bod angen newid ar frig y gêm yn hemisffer y gogledd a sefydlu cystadleuaeth Super 15 tebyg i hwnnw sydd i’w gael yn y de.

Dyna farn cadeirydd Gleision Caerdydd, Peter Thomas, sydd wedi galw am gystadleuaeth newydd er mwyn cau’r bwlch rhwng safon chwarae’r gwledydd.

Eleni, am y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd, does dim un tîm o hemisffer y gogledd wedi cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Yr ateb i hynny, yn ôl Peter Thomas, fyddai creu cynghrair Ewropeaidd newydd fyddai dim ond yn defnyddio’r dalent gorau o’r Chwe Gwlad er mwyn eu paratoi ar gyfer y llwyfan rhyngwladol.

Dau dîm i Gymru

Doedd cadeirydd y Gleision ddim am weld newid i’r cynghreiriau presennol, gan olygu y byddai pedwar rhanbarth Cymru dal yn chwarae yn y Pro12, a chynghreiriau Lloegr a Ffrainc yn aros yr un peth.

Ond byddai Super 15 Ewropeaidd yn golygu bod y goreuon o’r clybiau a rhanbarthau hynny nawr yn ymuno â thimau’r gynghrair newydd – ac yn golygu yng Nghymru mwy na thebyg y byddai rhai o chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru yn symud fyny at y rhanbarthau.

Fe allai cynghrair hemisffer y gogledd gynnwys pedwar tîm o Ffrainc a Lloegr, dau’r un o Gymru, Iwerddon a’r Alban, ac un o’r Eidal, yn ôl Peter Thomas.

“Byddai angen dau dîm newydd yng Nghymru, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin,” meddai Peter Thomas.

“Dychmygwch e. Edrychwch ar y tîm fyddai’n dod o’r dwyrain. Byddai gennych chi chwaraewyr fel Taulupe Faletau, Tyler Morgan a Hallam Amos yn chwarae gyda Sam Warburton, Gareth Anscombe a Lloyd Williams.

“A pha fath o dîm fyddech chi’n gallu ei greu allan o’r Gweilch a’r Scarlets?”

Llai o gemau

Byddai cynghrair Super 15 yn golygu llai o gemau bob tymor i’r chwaraewyr hynny, yn ôl Peter Thomas, ond mae’n bosib mai dyna fydd yr unig ffordd y gall Cymru ennill Cwpan y Byd yn y dyfodol.

“Byddai gennych chi 14 gêm o Super Rugby ac 13 gêm ryngwladol a dyna chi’r tymor i’r chwaraewyr elit,” meddai.

“Rydw i’n galw ar y pwerau yn hemisffer y gogledd i ddeffro. Os ydyn ni eisiau ennill Cwpan y Byd tro nesaf, mae’n rhaid meddwl am gyflwyno Super 15. Os arhoswn ni fel ydyn ni wnawn ni byth ei gwneud hi.

“Mae angen paratoi ein chwaraewyr ar gyfer rygbi rhyngwladol ac ar hyn o bryd dyw hynny ddim yn digwydd.”