Mae Israel Folau yn nhîm Awstralia i herio Cymru yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Roedd amheuon am ffitrwydd y cefnwr 26 oed yn dilyn anaf i’w ffêr.
Ond ni fydd yr asgellwr Rob Thorne ar gael o ganlyniad i anaf, ac mae’r blaenasgellwr Michael Hooper wedi’i wahardd am hyrddio cefnwr Lloegr Mike Brown allan o sgarmes mewn modd ymosodol.
Daw Sean McMahon a Drew Mitchell i mewn i’r garfan yn eu lle.
Bydd y gic gyntaf yn Twickenham ddydd Sadwrn am 4.45yh.
Tîm Awstralia: I Folau, A Ashley-Cooper, T Kuridrani, M Giteau, D Mitchell, B Foley, W Genia; S Sio, S Moore (capten), S Kepu, K Douglas, D Mumm, S Fardy, S McMahon, D Pocock. Eilyddion: T Polota-Nau, J Slipper, G Holmes, R Simmons, B McCalman, N Phipps, M Toomua, K Beale