Hal Robson-Kanu yn ymarfer yr wythnos hon (llun: CBDC)
Fe allai sicrhau lle yn Ewro 2016 yr wythnos hon fod yn ddechrau ar gyfnod hir o lwyddiant ar y lefel rhyngwladol i bêl-droed Cymru, yn ôl un o chwaraewyr mwyaf poblogaidd y tîm.
Dros yr ymgyrch ragbrofol mae Hal Robson-Kanu wedi sefydlu’i hun fel un o chwaraewyr pwysicaf y garfan, gan arwain yr ymosod a gosod sylfaen er mwyn i chwaraewyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey ddisgleirio.
Mae hynny wedi arwain at gydnabyddiaeth eang o’i gyfraniad, gyda chân adnabyddus y cefnogwyr bellach yn cael ei bloeddio sawl tro yn ystod y gemau diwethaf.
Ond er ei fod yn amlwg yn gwerthfawrogi’r clod sydd yn cael ei roi iddo, mae Robson-Kanu hefyd yn pwysleisio bod angen talu teyrnged i waith dau o’i reolwyr – y bos presennol Chris Coleman, a’i ragflaenydd Gary Speed.
Eisiau ‘degawdau’ o lwyddiant
Dim ond un pwynt sydd ei angen ar Gymru i sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, ac mae disgwyl i hwnnw ddod un ai yn erbyn Bosnia nos Sadwrn neu gartref yn erbyn Andorra nos Fawrth.
Ac er ei fod yn un o’r chwaraewyr yn y garfan gafodd ei fagu yn Lloegr, does dim dwywaith bellach cymaint y byddai llwyddo ar y lefel rhyngwladol gyda Chymru yn ei olygu i ymosodwr Reading.
“Rydyn ni bron yna. Mae wedi bod yn ymgyrch bositif iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan ohoni. Rydyn ni’n gwybod ein bod ni ar drothwy creu hanes, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar orffen y job,” meddai Robson-Kanu.
“Fe wnawn ni drin e [gêm Bosnia] fel pob gêm yn y grŵp, bod yn bositif a thrio cael canlyniad fel rydyn ni wedi gwneud drwy gydol yr ymgyrch. Gobeithio y byddwn ni’n dod gartref yn hapus.
“Bob tro dw i’n gwisgo crys Cymru mae’n fraint arbennig i gynrychioli’ch gwlad. Mae’r llwyddiant ‘dyn ni’n cael nawr yn bleser, ac mae’n wych i fod yn rhan ohoni.
“Mae’n wych, ‘dych chi’n teimlo’r buzz yna drwy’r wlad i gyd. Mae’n gyffrous iawn i’r cefnogwyr.
“I ni fel gwlad bêl-droed ac fel pêl-droedwyr rydyn ni’n gobeithio sbarduno beth allai fod yn gwpl o ddegawdau arbennig iawn i bêl-droed Cymru.”
Canu clodydd
Ychydig yn swil yw Robson-Kanu wrth drafod y gân sydd gan gefnogwyr Cymru iddo, gan fynnu bod yr holl dîm yn haeddu llawn cymaint o glod ag e.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn eithaf swnllyd gyda hwnnw!” cyfaddefodd.
“Fel chwaraewyr rydyn ni wastad yn ymwybodol o beth mae’r cefnogwyr yn ei ganu, weithiau wnewch chi ddim sylwi ar y pryd pan ‘dych chi yng nghanol pethau, ond mae’n fraint eu cael nhw yn canu fel ‘na.
“Rhaid rhoi clod i fand y Barry Horns, nhw ddechreuodd e dw i’n meddwl, yn y gemau cartref diwethaf rydyn ni wedi ei glywed e sawl gwaith.
“Mae pob un o’r 11 chwaraewr sydd wedi camu i’r cae wedi bod yn rhoi eu gorau bob tro, a dw i’n un o’r chwaraewyr hynny, felly mae’n dda bod cefnogwyr yn cydnabod ymdrech y garfan i gyd, achos dyw e ddim jyst am un chwaraewr.
“Mae gen i gân yn Reading mae cefnogwyr yn ei ganu, ond mae bod yn ryw fath o ffefryn cenedlaethol yn deimlad arbennig.
“Mae’n handi pan chi’n chwarae wrth ymyl Gareth Bale hefyd!”
‘Byth yn anghofio’ Speed
Un person mae Hal Robson-Kanu yn awyddus i roi clod iddo yw cyn-reolwr Cymru Gary Speed, a ddechreuodd adfywiad y tîm cyn ei farwolaeth yn 2011.
Y rheolwr presennol Chris Coleman gymrodd yr awenau wedi hynny, ac ar ôl dechrau anodd mae bellach wedi arwain Cymru i drothwy eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 58 mlynedd.
“Pan ddaeth Gary Speed mewn rhai blynyddoedd yn ôl fe newidiodd e’r awyrgylch, cyn hynny doedd ddim cymaint o awch i ennill, i fod y gorau, ond dyna beth gyflwynodd Speedo,” esboniodd Hal Robson-Kanu.
“Yn anffodus pan aeth e, wedyn daeth Chris Coleman mewn ac mae nawr yn mynd a phethau tu hwnt i hynny ac mae wedi mynd a’r garfan a’r chwaraewyr ymlaen, a rhoi’r awch i ni gyflawni beth rydyn ni ar drothwy gwneud nawr.
“Hyd yn oed yn ystod yr adegau arbennig rydyn ni wedi’i gael yn ystod yr ymgyrch, ‘dych chi’n cofio’r argraff yna gafodd e [Speed] pan ddaeth e mewn, a fyddwn ni byth yn anghofio hynny.”
Cadw Coleman
Does dim amheuaeth gan Hal Robson-Kanu mai Coleman fydd y dyn i arwain y tîm i Ewro 2016 ac ar ôl hynny yn ymgyrch Cwpan y Byd 2018, wrth i Gymru geisio gwneud eu marc ar y byd pêl-droed rhyngwladol.
“I mi mae’r rheolwr wedi bod yn hollol wych. Fe ddaeth e mewn yn ystod amgylchiadau anodd, ddim llawer o reolwyr fyddai wedi bod eisiau cymryd yr awenau dan yr amgylchiadau,” meddai Robson-Kanu.
“Wedyn mae wedi gwneud yn hynod o dda, uno’r grŵp, cael pawb i dynnu’r un ffordd, gosod y safonau mewn ymarferion ac mewn gemau, a gwneud i ni gredu y gallwn ni gyflawni.
“Felly i ni’r chwaraewyr does dim dwywaith y dylai’r rheolwr gael ei wobrwyo, ac mai fe yw’r dyn i’r swydd.”
Stori: Iolo Cheung