Dan Biggar yn cicio'n ddiogel eto (Caroline Lena Becker CCA 3.0)
Cymru 17 Fiji 6

Fe gafodd Cymru hanner cynta’ llwyddiannus ond rhwystredig i arwain o 17-6.

Roedd tactegau rhwystro Fiji yn mynd heb eu cosbi gan y dyfarnwr ond fe lwyddodd Cymru i sgorio dau gais o safleoedd yn agos at y lein.

Y mewnwr Gareth Davies oedd y cynta i groesi, yn gynnar, gyda ffugiad o sgarmes o dan y pyst a’r bachwr Scott Baldwin a gafodd yr ail ar ôl 31 munud, yn turio trosodd ar ôl i rediadau da gan y ddau Morgan, Matthew a Tyler, gario Cymru at y llinell.

Fe lwyddodd Dan Biggar gyda’r ddau drosiad ac un gôl gosb yn y canol, ar ôl bylchiad gan Gareth Davies.

Colli cyfleoedd

Dwy gic gosb a gafodd Fiji a’r ail ar ôl 37 munud yn dangos pa mor beryg y gallan nhw fod. Fe ddaeth ar ôl i Fiji gario’r bêl tros dri chwarter y cae cyn o Dan Lydiate eu hatal. Ond fe ildiodd Cymru gic o’r sgrym lle’r oedden nhw’n diodde’.

Fe fu bron i Gymru gael trydydd cais ym munud ola’r hanner gyda gwthiad 20 llath gan y blaenwyr yn cael ei atal ar y lein.

Roedden nhw hefyd wedi dod yn agos iawn sawl tro cyn hynny, gan gynnwys rhediad cry’ gan yr asgellwr George North trwy hanner tîm Fiji.

Yr ail hanner

Barn y sylwebwyr oedd y bydd rhaid i Gymru aros yn amyneddgar er mwyn cipio pwynt bonws i roi mwy o bwysau fyth ar Loegr cyn eu gêm yn erbyn Awstralia.

Ond y pryder mwya’ oedd cryfder Fiji yn y sgrym.


Dan Biggar yn cicio’n ddiogel eto (Caroline Lena Becker CCA 3.0)