Sam Warburton
Mae capten Cymru Sam Warburton wedi mynnu bod yn rhaid i’r tîm “symud ymlaen” ar ôl colli dau o’u prif chwaraewyr llai na phythefnos cyn dechrau Cwpan Rygbi’r Byd.
Ddoe fe gadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru fod Mike Phillips ac Eli Walker wedi cael eu galw mewn i’r garfan yn dilyn anafiadau i Rhys Webb a Leigh Halfpenny, fydd yn methu’r gystadleuaeth gyfan.
Ond er y siom amlwg o ystyried fod Webb a Halfpenny yn chwaraewyr allweddol i dîm Warren Gatland, mynnodd Warburton fod gan y tîm dal obaith o ennill y twrnament.
“Mae pobl yn edrych ar hwn fel byw a marw ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen,” meddai capten Cymru.
“Fe fydd y bois yn siomedig dros yr unigolion achos rydyn ni gyd yn ffrindiau, ond fel tîm fydd hyn ddim yn effeithio ar ein paratoadau ni.
“Dw i dal yn credu y gallwn ni gyflawni beth rydyn ni’n bwriadu ei wneud. Dydych chi ddim jyst yn ennill Cwpan y Byd gyda dau chwaraewr.”
Beirniadu Gatland
Mae nifer o sylwebwyr, gan gynnwys cyn-asgellwr Cymru Shane Williams, wedi beirniadu penderfyniad Warren Gatland i gadw Halfpenny ar y cae cyhyd yn y gêm baratoadol yn erbyn yr Eidal ble cafodd ei anafu.
Ond mae prif hyfforddwr Cymru wedi mynnu nad oedd wedi cymryd risg â’r cefnwr, ac mai damwain llwyr oedd yr anaf i’w ben-glin.
“Roedd mwy nag un chwaraewr wedi’u strapio lan dros y penwythnos – roedd tua hanner dwsin, dw i’n meddwl – a gallwch chi ddim amddiffyn pawb,” meddai Gatland.
“Roedd Leigh wedi gwisgo’r strap [ar ei ben-glin] cyn gêm Iwerddon. Roedd e’n rhywbeth i’w wneud â chefn y pen-glin ac roedd e wedi gofyn amdano ar gyfer ei gicio fe hefyd.
“Roedd e’n strapio ysgafn yn hytrach na strapio trwm ac roedd e jyst yn ddamwain anffodus.”