Owain Doull
Mae Owain Doull yn parhau yn chweched yn nosbarthiad cyffredinol Taith Prydain ar ôl y trydydd cymal rhwng Cockermouth a Kelso dydd Mawrth.

Eleni fe ddechreuodd y ras yng Nghymru am y tro cyntaf, ac fe orffennodd y Cymro yn bedwerydd yn y cymal agoriadol hwnnw rhwng Biwmares a Wrecsam.

Mae’r beiciwr o Team Wiggins wedi gorffen yn uchel ym mhob un o’r tri chymal hyd yn hyn, ac mae ganddo bum cymal i fynd wrth i’r ras ddod i’w therfyn dydd Sul 13 Medi.

Elia Viviani o dîm Sky enillodd y cymal diweddaraf, ond mae Juan Jose Lobato o dîm Movistar yn parhau i arwain y dosbarthiad cyffredinol o flaen Edvald Boasson Hagen o dîm MTN Qhubeka.

Floris Gerts o BMC sydd yn drydydd yn y dosbarthiad cyffredinol, gyda Wouter Poels o Sky yn bedwerydd a Dylan Van Baarle o TGC yn bumed.