Mae disgwyl i ganolwr y Gweilch, Ashley Beck fod allan am wyth mis yn dilyn anaf i’w ben-glin.
Daeth Beck oddi ar y cae yn ystod gornest agoriadol y Gweilch yn erbyn Ulster yn y PRO12 yr wythnos diwethaf.
Daeth cadarnhad bellach ei fod e wedi anafu gewyn croesffurf blaen yn ei goes.
Dywedodd Rheolwr Perfformiad Meddygol y Gweilch, Chris Towers: “Mae archwiliad cychwynnol wedi cadarnhau mai anaf i’r gewyn croesffurf blaen ydyw, ac fe fydd Ashley yn gweld arbenigwr y ben-glin yr wythnos hon.
“Gobeithio y caiff e lawdriniaeth cyn diwedd yr wythnos.”
Ychwanegodd y gallai Beck fod allan am wyth mis cyn dychwelyd i’r cae.