Stadiwm y Mileniwm
Mae cannoedd o bobl bellach wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i ailenwi Stadiwm y Mileniwm yn ‘Stadiwm Principality’.
Ddoe fe gyhoeddwyd bod cymdeithas adeiladu’r Principality wedi cael yr hawl i enwi’r maes eiconig ar ôl arwyddo cytundeb noddi, oedd werth £15m dros ddeng mlynedd yn ôl adroddiadau.
Yn ôl penaethiaid URC roedd y penderfyniad yn un hanesyddol i Gymru fyddai’n dod a rhagor o incwm allai gael ei wario ar rygbi ar lawr gwlad.
Ond mae eraill wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad, gyda rhai cefnogwyr rygbi yn mynnu na fyddan nhw’n cyfeirio at y maes gyda’r enw newydd, ac eraill yn gresynu cysylltiadau enw’r cwmni â thywysogaeth.
‘Creu dryswch’
Mewn llai na 24 awr roedd bron i 900 o bobl wedi arwyddo deiseb ‘Na i ail-enwi Stadiwm y Mileniwm’, gafodd ei chyhoeddi gan ‘Plaid Ifanc Youth’ ar wefan change.org.
“Mae Stadiwm y Mileniwm yn cynrychioli dechrau’r Gymru newydd a ddatblygodd ar ddiwedd y 90au,” meddai’r ddeiseb.
“Efallai mai un o binaclau yn nhwf ein hunanhyder fel cenedl oedd adeiladu Stadiwm y Mileniwm – un o’r mannau gorau yn y byd ar gyfer chwaraeon – a chafodd ei adeiladu yng nghanol ein prifddinas.
“Dyma’r man lle rydym yn arddangos Cymru i’r byd – a lle mae 70,000 o bobl yn canu ein hanthem genedlaethol wedi atseinio dros y byd.
“I’r perwyl hwn, rydym yn gwrthwynebu ail-enwi’r stadiwm fel Stadiwm y Principality, yn enwedig am y dryswch y gallai’r enw achosi yn y Saesneg. Dros ganrifoedd, mae Cymru wedi cael ei labelu fel tywysogaeth, sy’n ffeithiol anghywir ac yn ein diraddio.”
Cyhoeddiad ‘hanesyddol’
Cafodd y farn honno ei ategu gan sawl defnyddiwr ar wefannau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad – ond roedd eraill yn canmol URC am fanteisio ar y cyfle economaidd, gydag eraill yn cyfeirio at lwyddiant Principality fel cwmni cynhenid o Gymru.
Bydd y maes yn parhau i gael ei adnabod fel Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd eleni, cyn cael ei hailenwi yn Stadiwm Principality mewn pryd ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2016.
Mynnodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, fod y cyhoeddiad yn gam yn y cyfeiriad cywir.
“Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i rygbi yng Nghymru ac yn ddathliad o’n perthynas ni â Chymdeithas Adeiladu’r Principality,” meddai Roger Lewis.
“Mae’n gweddu’n berffaith i Gymru. Nhw yw cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, wedi’u ffurfio yn 1860 ac wedi ymroi i gefnogi cymunedau ar draws Cymru gyda dros 50 cangen yn cyflogi 1,000 o staff ar draws y wlad.”