Sam Warburton
Mae Sam Warburton yn benderfynol o fynd “un cam ymhellach” gyda Chymru yng Nghwpan y Byd eleni, ar ôl i’r tîm ddod mor agos at gyrraedd y ffeinal pedair blynedd yn ôl.
Yn un o’r gemau mwyaf dramatig yn hanes rygbi’r genedl, fe gollodd Cymru o 9-8 yn erbyn Ffrainc yn y rownd gynderfynol yn 2011 ar ôl i Warburton, y capten, gael cerdyn coch cynnar.
Ar ôl dod mor agos bryd hynny i herio Seland Newydd yn y ffeinal, mae chwaraewyr Cymru mor benderfynol ag erioed i wneud yn iawn am y siom honno eleni yn ôl y blaenasgellwr.
“Fe allwn ni’n bendant fynd un cam ymhellach,” meddai Warburton.
“Mae’r holl chwaraewyr yn cael cwestiynau am Gwpan y Byd diwethaf, ac mae wastad yn gwestiwn ‘beth os’. Does neb yn gwybod beth fyddai wedi digwydd. Mae’n amhosib dweud.”
Mwy o brofiad
Mae gan Gymru dasg hyd yn oed yn fwy heriol eleni gydag un o’r grwpiau anoddaf mae’r gystadleuaeth erioed wedi’i weld – fe fydd rhaid herio Awstralia, Lloegr, Fiji ac Wrwgwai cyn hyd yn oed meddwl am gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Ond mae Warburton yn hyderus fod gan y garfan bresennol y profiad sydd ei angen arnyn nhw y tro hwn – oedd o bosib ddim yno yn 2011.
“Mae’n amhosib ateb beth fyddai wedi digwydd [yn 2011], ond mae asgwrn cefn y tîm tro yma yn eithaf tebyg, a phawb gyda rhyw 30 i 40 cap yn fwy,” meddai’r capten.
“Mae’r grŵp o arweinwyr sydd gennym ni yn y garfan ar y cyfan yn llawer gwell nag oedd e pedair blynedd yn ôl, sydd yn gwneud fy nhasg i’n haws hefyd.
“Yng Nghwpan y Byd mae’n rhaid i chi roi chwech neu saith gêm at ei gilydd a gwneud siŵr y gallwch chi ei hennill hi. Mae’n rhaid bod yn gyson yn ein perfformiad bob wythnos.”
Ffydd Gatland
Er mai dim ond 26 oed yw Sam Warburton o hyd dyma’r ail waith y bydd e’n arwain ei wlad fel capten i Gwpan y Byd.
Ac mae’n hollol grediniol fod y diolch i gyd yn mynd i hyfforddwr Cymru Warren Gatland am ddangos ffydd ynddo pan oedd hyd yn oed fe yn amau ei hun.
“Dw i’n amau a fyddwn i yn y safle rydw i oni bai am Warren,” meddai Warburton.
“Fyddai hyfforddwr arall falle heb ddangos ffydd mewn crwt 22 oed oedd dîm ond ag 14 neu 15 cap pan ddewisodd e fi fel capten. Fe wnaeth e sticio gyda fi.
“Roedd llawer o chwaraewyr yn y garfan y gallai e fod wedi dewis yn lle fi. Nes i hyd yn oed ei gwestiynu e a gofyn ‘beth amdano fe, neu fe?’
“Roedd gan y bois yna 50 cap ac roedd rhai yn agos at 100 cap. Dw i wir yn gwerthfawrogi’r ffydd y gwnaeth e ddangos ynddo i.
“Dw i’n teimlo mod i’n chwaraewr ychydig yn wahanol pan dw i’n chwarae o dan Warren i Gymru. Mae e’n rhoi cymaint o hyder ynddo i, a dw i’n meddwl bod hynny’n dod a’r rygbi gorau allan ohonof i.”