Fe fydd Cymru’n herio Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm heddiw, gan wybod fod llefydd yng ngharfan Cwpan y Byd yn y fantol.
Mae’r holl docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer yr ornest, ac fe fydd y ddau hyfforddwr Warren Gatland a Joe Schmidt yn rhoi cyfle i rai o’r chwaraewyr ymylol hawlio’u lle yn y ddwy garfan ar gyfer y gystadleuaeth.
Yn dychwelyd i garfan Iwerddon ddydd Sadwrn mae’r canolwr Keith Earls a’r clo Donnacha Ryan.
Yn brwydro yn erbyn Jonny Sexton am grys y maswr fydd Paddy Jackson, ac fe fydd ei wrthwynebydd James Hook yn cystadlu am grys rhif 10 Cymru.
Dyma’r trydydd tro i Hook wisgo crys Cymru ers Cwpan y Byd 2011.
Mae pedwar wyneb newydd yng ngharfan Cymru – y canolwr Tyler Morgan, yr asgellwr Eli Walker, y clo Dominic Day a’r wythwr Ross Moriarty.
Ond does dim lle i George North, sy’n parhau i wella yn dilyn tair cyfergyd dros y misoedd diwethaf, ond fe allai gael ei gynnwys yn y garfan derfynol ar gyfer Cwpan y Byd fydd yn cael ei henwi ar Awst 31.
Hallam Amos fydd yn dechrau yn safle’r cefnwr, tra bydd Alex Cuthbert yn chwarae ar yr asgell dde.
Yr haneri fydd James Hook a Mike Phillips.
Ymhlith y blaenwyr mae’r triawd Nicky Smith, Richard Hibbard ac Aaron Jarvis yn y rheng flaen, Jake Ball o’r Scarlets yn bartner i Dominic Day yn yr ail reng, a Justin Tipuric a Dan Baker o’r Gweilch sy’n cwblhau triawd y rheng ôl.
Roedd disgwyl i’r olwr Gareth Anscombe ymddangos yn y garfan, ac mae olwr y Gleision wedi’i enwi ar y fainc.
Mae’r gic gyntaf am 2.30yp.
Cymru: 15 Hallam Amos, 14 Alex Cuthbert, 13 Tyler Morgan, 12 Scott Williams (c), 11 Eli Walker, 10 James Hook, 9 Mike Phillips; 1 Nicky Smith, 2 Richard Hibbard, 3 Aaron Jarvis, 4 Jake Ball, 5 Dominic Day, 6 Ross Moriarty, 7 Justin Tipuric, 8 Dan Baker.
Eilyddion: 16 Rob Evans, 17 Kristian Dacey, 18 Scott Andrews, 19 James King, 20 Taulupe Faletau, 21 Lloyd Williams, 22 Gareth Anscombe, 23 Matthew Morgan.
Iwerddon: 15 Felix Jones, 14 Andrew Trimble, 13 Keith Earls, 12 Darren Cave, 11 Fergus McFadden, 10 Paddy Jackson, 9 Eoin Reddan; 1 Jack McGrath, 2 Richardt Strauss, 3 Mike Ross, 4 Donnacha Ryan, 5 Iain Henderson, 6 Jordi Murphy, 7 Tommy O’Donnell, 8 Jamie Heaslip (c).
Eilyddion: 16 Rory Best, 17 David Kilcoyne, 18 Michael Bent, 19 Dan Tuohy, 20 Chris Henry, 21 Kieran Marmion, 22 Ian Madigan, 23 Simon Zebo.