Fe fydd Nigel Owens yng ngofal tair gêm fel dyfarnwr yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn yr hydref.
Fe fydd e’n gyfrifol am yr ornest rhwng Tonga a Georgia yng Nghaerloyw ar Fedi 19, De Affrica yn erbyn yr Alban yn Newcastle ar Hydref 3 a Ffrainc yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Hydref 11.
Yn ogystal, fe fydd e’n ddyfarnwr cynorthwyol ar gyfer y gemau rhwng Awstralia a Ffiji yng Nghaerdydd ar Fedi 23, yr Ariannin yn erbyn Georgia yng Nghaerloyw ar Fedi 25 a De Affrica yn erbyn yr Unol Daleithiau yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain ar Hydref 7.
Fe fydd y dyfarnwyr a’r cynorthwywyr ar gyfer y rowndiau nesaf yn cael eu cyhoeddi wrth i’r gystadleuaeth ddatblygu.
Gemau Cymru
Mae Cymru’n gwybod bellach pwy fydd yn dyfarnu eu gemau nhw yn y grwpiau.
Y Ffrancwr Romain Poite fydd â’r chwiban ar gyfer yr ornest yn erbyn Wrwgwai yng Nghaerdydd ar Fedi 20.
Ei gydwladwr Jerome Garces fydd yn y canol ar gyfer yr ornest fawr yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar Fedi 26.
Yn gyfrifol am yr ornest rhwng Cymru a Ffiji yng Nghaerdydd ar Hydref 1 fydd y Gwyddel John Lacey, a’r gŵr o Dde Affrica, Craig Joubert fydd yn dyfarnu’r gêm yn erbyn Awstralia yn Twickenham ar Hydref 10.