Fe fydd dau frawd yn herio’i gilydd ar y cae pêl-droed heno wrth i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ddechrau eu hymgyrch Ewropeaidd.
Mae’r Seintiau Newydd wedi teithio draw i Ynysoedd y Faro i herio B36 Torshavn yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.
Ac fe fydd ymosodwr y Seintiau, Adrian Cieslewicz, yn dod wyneb yn wyneb ag ambell chwaraewr cyfarwydd – neb yn fwy na’i frawd ei hun, Lukasz.
Gobeithion Cymru
Y Seintiau Newydd yw unig gynrychiolwyr Cymru yn y gystadleuaeth eleni, a hynny ar ôl iddyn nhw ennill Uwch Gynghrair Cymru tymor diwethaf.
Bydd y gêm gyntaf yn cael ei chwarae ar faes B36 Torshavn heno, gyda’r ail gymal yn cael ei chwarae ar 7 Gorffennaf yng Nghroesoswallt.
Fe fydd yr enillydd dros y ddau gymal wedyn yn mynd ymlaen i herio Videoton, pencampwyr cynghrair Hwngari, yn y rownd nesaf.
Dau frawd
Un sy’n sicr o fod yn edrych ymlaen at yr ornest yw Adrian Cieslewicz, sydd yn 24 oed, a gafodd ei eni yng Ngwlad Pwyl ond yna’i fagu ar Ynysoedd y Faro.
Daeth Adrian Cieslewicz i sylw cefnogwyr pêl-droed yng Nghymru gyntaf fel asgellwr yn Wrecsam, a llynedd fe ymunodd â’r Seintiau Newydd.
Mae ei frawd hynaf Lukasz, sydd yn 27 oed, wedi bod yn chwarae i B36 Torshavn ers pedair blynedd ac wedi ennill cynghrair Ynysoedd y Faro gyda nhw yn 2011 a 2014.
Nid Lukasz fydd yr unig chwaraewr y bydd Adrian Cieslewicz yn ei nabod o dîm y gwrthwynebwyr chwaith – roedd y brawd bach wedi chwarae i B36 am gyfnod llynedd.
Fe fydd modd gwrando ar sylwebaeth o’r gêm heno rhwng B36 Torshavn a’r Seintiau Newydd ar wefan y clwb, gyda’r gic gyntaf am 7.00yh.