Mae dewiswyr Lloegr wedi enwi dau droellwr yn y garfan i herio Awstralia ym mhrawf cyntaf Cyfres y Lludw yng Nghaerdydd ddydd Mercher nesaf.

Roedd cryn sôn mai Moeen Ali fyddai’r unig droellwr yn y garfan, ond mae lle hefyd i’r troellwr coes o Swydd Efrog, Adil Rashid ymhlith yr 13 gafodd eu henwi gan yr hyfforddwr newydd, Trevor Bayliss heddiw.

Doedd Rashid ddim yn un o’r 14 a dreuliodd bedwar diwrnod yn ymarfer yn Sbaen, ac mae ei gynnwys yn debygol o beri syndod i rai.

Mae’r bowliwr cyflym o Swydd Middlesex, Steven Finn hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan, ond mae disgwyl iddo fod yn bedwerydd opsiwn y tu ôl i Stuart Broad, Jimmy Anderson a Mark Wood.

Ond does dim lle i ddau o’r bowlwyr cyflym oedd ar y daith honno i Sbaen, sef Mark Footitt (Swydd Derby) a Liam Plunkett (Swydd Efrog).

Rashid yw’r unig chwaraewr yn y garfan sydd heb chwarae mewn gêm brawf, ond fe wnaeth gryn argraff ar y dewiswyr yn ystod y gyfres undydd yn erbyn Seland Newydd, pan gipiodd e wyth wiced mewn pum gêm.

Pe bai Lloegr yn mynd am un troellwr, yna mae’n debygol iawn mai Rashid, ac nid Moeen Ali, fyddai’r dewis cyntaf.

Ond mae’r dewiswyr yn mynnu y bydd y ddau yn cael cyfle i wneud argraff yn ystod yr wythnos.

‘Dim dewisiadau annisgwyl’

Dywedodd y prif ddewiswr, James Whitaker: “Does dim byd annisgwyl iawn yn y garfan.

“Mae cynnwys Adil Rashid yn rhoi digon o opsiynau ymhlith y bowlwyr i Alastair (Cook) a Trevor (Bayliss) ac fe fydd y llain yng Nghaerdydd yn ddylanwadol wrth benderfynu pwy fydd yn yr unarddeg terfynol.

“O fewn y garfan, mae chwaraewyr digon profiadol yng nghriced y Lludw a dw i’n sicr y bydd y wybodaeth yna’n ddefnyddiol ar gyfer y chwaraewyr sydd heb brofi Cyfres y Lludw ar eu tomen eu hunain eto.”

Carfan Lloegr: A Cook (capten), J Root, Moeen Ali, J Anderson, G Ballance, I Bell, S Broad, J Buttler, S Finn, A Lyth, B Stokes, M Wood, A Rashid