Eder, ymosodwr Abertawe
Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo’r ymosodwr o Bortiwgal, Eder, yn dilyn profion meddygol dros y penwythnos.
Fe sgoriodd yr ymosodwr ddeg gôl mewn 29 gêm i Braga tymor diwethaf, ac mae hefyd wedi ennill 18 o gapiau dros Bortiwgal gan gynnwys llynedd yng Nghwpan y Byd.
Dyw’r Elyrch heb gadarnhau faint maen nhw wedi ei dalu am y chwaraewr 27 oed, ond yn ôl adroddiadau mae’r ffi yn tua £5m.
Bydd Eder yn cystadlu â Bafetimbi Gomis am le yn ymosod Abertawe, ac fe yw’r pedwerydd chwaraewr i’r clwb arwyddo’r haf yma ar ôl Andre Ayew, Franck Tabanou a Kristoffer Nordfeldt.