Connacht 20–24 Gweilch

Bydd rhaid i’r Gweilch fodloni ar gêm gynderfynol oddi cartref yn y Guinness Pro12 ar ôl gwastraffu cyfle i orffen ar frig y tabl yn erbyn Connacht ar Faes Chwarae Galway brynhawn Sadwrn.

Roedd angen buddugoliaeth a phwynt bonws ar y Gweilch i sicrhau lle yn y ddau uchaf cyn y gemau eil gyfle, ac er iddynt sgorio tri chais yn yr hanner cyntaf, methu ychwanegu at hynny oedd eu hanes yn yr ail hanner.

Manteisiodd Munster a Glasgow yn llawn ar hynny wrth neidio drostynt yn y tabl yn dilyn buddugoliaethau pwynt bonws yn eu gemau hwy yn erbyn Ulster a’r Dreigiau.

Hanner Cyntaf

Connacht, yn chwarae yn erbyn y gwynt, gafodd y dechrau gorau wrth i ran helaeth o’r chwarter awr cyntaf gael ei chwarae yn hanner y Gweilch.

Yr ymwelwyr serch hynny sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm gyda chic gosb enfawr Dan Biggar wedi chwe munud.

Daeth y cais cyntaf y Gweilch wedyn wedi chwarter awr, Biggar yn sgorio o dan y pyst wedi bylchiad da Ben John trwy’r canol.

Y Cymry oedd y tîm gorau wedi hynny a dilynodd dau gais arall cyn hir. Daeth y cyntaf pan darodd John y llinell amddiffynnol ar ongl dda i dderbyn pas Rhys Webb a’r ail i Webb ei hun yn dilyn bylchiad cryf a dwylo da Hanno Dirksen.

Llwyddodd Biggar i drosi pob cais i roi mantais o bedwar pwynt ar hugain i’w dîm wedi hanner awr.

Byddai pedwerydd cais cyn yr egwyl, gyda’r gwynt yn gefn iddynt, wedi bod yn ddelfrydol ond roedd y gwyngalch fodfedd yn rhy bell i Eli Walker wrth iddo geisio ymestyn ym munudau olaf yr hanner.

Ail Hanner

Un tîm oedd ynddi yn yr ail hanner wrth i’r Gweilch wastraffu cyfle euaraidd ar ôl gosod sylfaen mor gadarn yn y deugain munud agoriadol.

Dechreuodd yr ail gyfnod gyda dwy gic gosb o droed Jack Carty a llwyddodd y maswr gyda throsiad anodd o’r ystlys hefyd wedi i Eoghan Masterson groesi am gais cyntaf y Gwyddelod yn dilyn sgarmes symudol feistrolgar.

Roedd 25 munud i fynd wedi’r cais hwnnw a’r tîm cartref yn ôl o fewn dwy sgôr.

Llwyddodd y Gweilch serch hynny i ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth gan ildio dim ond un cais arall, un i Dennis Buckley yn hwyr yn y gêm. Ond ddaeth y Cymry ddim yn agos at sgorio eu hunain wrth iddynt fethu â sicrhau’r pwynt bonws holl bwysig hwnnw.

Mae’r Gweilch yn gorffen y tymor arferol yn drydydd yn nhabl y Pro12 a bydd taith anodd i Munster yn eu hwynebu’r wythnos nesaf wedi iddynt hwythau orffen yn ail tu ôl i Glasgow.

.
Connacht
Ceisiau:
E Masterson 54’, Dennis Buckley 80’
Trosiadau: Jack Carty 55’, 80’
Ciciau Cosb: Jack Carty 42’, 50’
.
Gweilch
Ceisiau:
Dan Biggar 16’, Ben John 26’, Rhys Webb 28’
Trosiadau: Dan Biggar 17’, 27’, 29’
Cic Gosb: Dan Biggar 6’