Mae canolwr y Gleision Dafydd Hewitt wedi ymddeol o rygbi proffesiynol ar ôl cael cyngor meddygol i roi’r gorau iddi.

Roedd y chwaraewr 29 oed wedi bod yn wyneb cyfarwydd ym Mharc yr Arfau ar ôl chwarae dros y rhanbarth ers bron i ddegawd, ac fe gafodd ei wneud yn is-gapten yn 2012.

Ond dim ond dwywaith y mae wedi chwarae’r tymor hwn ar ôl cael problemau â’i wddf, ac mae bellach wedi penderfynu peidio â chwarae ymhellach.

“Mae’n anodd cyfleu mewn geiriau sut dw i’n teimlo i wybod na fyddai’n gwisgo fy nghrys Gleision eto,” meddai Dafydd Hewitt wrth gyhoeddi ei ymddeoliad.

“Does dim un chwaraewr rygbi  yn disgwyl cael gwybod na allan nhw chwarae’r gêm maen nhw’n ei garu fyth eto; dyna yw’r teimlad gwaethaf.

“Fy mreuddwyd i ers yn blentyn oedd chwarae rygbi i Gleision Caerdydd, y tîm nes i ddilyn fel bachgen a breuddwydio ei gynrychioli.

“Rydw i wedi mwynhau pob eiliad o fod yn un o’r Gleision ac roeddwn i’n gwybod yn gynnar iawn ei fod yn glwb doeddwn i ddim eisiau  ei adael.”

Capiau ieuenctid

Diolchodd i staff meddygol a hyfforddi’r Gleision wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, ac fe ddywedodd prif weithredwr y rhanbarth Richard Holland y byddai colled fawr ar ôl y chwaraewr a wisgodd grys y clwb 122 o weithiau.

Fe sgoriodd y canolwr 13 o geisiau yn ystod yr yrfa honno gyda’r Gleision, gan chwarae am y canfed tro dros y rhanbarth yn 2013 mewn gêm yn erbyn Caeredin.

Yn gynharach yn ei yrfa fe fu’n rhan o dîm dan-21 Cymru a enillodd y Gamp Lawn yn 2005, ac fe fu’n gapten ar yr un tîm yng Nghwpan y Byd dan-21 yn 2006.

Roedd hefyd yn chwarae rygbi saith bob ochr i Gymru ac roedd yn rhan o’r garfan a enillodd Gwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd yn Dubai yn 2009.